Siom sglefrfyrddiwr am eithrio'r gamp o'i gwrs TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae sglefrfyrddiwr ifanc o Gwm Gwendraeth yn galw am gynnwys y gamp fel gweithgaredd swyddogol yn yr arholiad addysg gorfforol TGAU.
Mae Osian George, 14, yn ddisgybl yn Ysgol Maes y Gwendraeth ac â'i fryd ar gystadlu yn y Gemau Olympaidd.
Ar ôl ymarfer ers yn chwech oed, mae Osian yn dal i wella'r sgiliau sglefrfyrddio ac yn teithio'n gyson i ganolfannau yn Abertawe a Chaerdydd er mwyn perffeithio'r grefft.
Roedd wedi gobeithio y byddai'r gamp yn cael ei derbyn fel un o'r gweithgareddau ar gyfer ei arholiad TGAU addysg gorfforol, ond ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn bosib.
'Siomedig iawn'
"Roeddwn i wedi gobeithio bydde skateboardio yn gallu bod yn rhan o'r gwaith fi'n 'neud ar gyfer TGAU," dywedodd.
"Rwy wedi bod yn skateboardio trwy fy holl fywyd. Ar y funed dyw e ddim yn cael ei gydnabod ar y maes llafur ac mae hynny'n siomedig iawn."
Dywedodd pennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth, Wyn Evans: "Gyda'r agwedd ymarferol yn cyfri tuag at hanner y dyfarniad TGAU, yr her wrth gwrs trwy gyflwyno campau newydd neu leiafrifol, yw sicrhau bod yr asesiad mewnol a'r dilysiad allanol gan CBAC o waith ymarferol y disgybl yn deg."
Mae galwadau Osian wedi ennill cefnogaeth yn lleol gyda'r cynghorydd sir, Dai Thomas, yn galw am gynnwys y gamp ar y maes llafur.
"Mae'n siomedig fod y cyd bwyllgor ddim yn gadel i sglefrfyrddio fod yn rhan o'r cwrs TGAU," meddai.
"Mae wedi bod yn yr Olympics ac mae Osian yn llwyddiannus iawn yn y gamp.
"Fe alle fe ddod â llwyddiant i Gymru yn y dyfodol ac mewn blynydde' i ddod, bydden i'n gobeithio ac yn disgwyl ei weld e'n ennill medalau yn y Gemau Olympaidd."
Edrych ar ehangu
Dywedodd llefarydd o fwrdd arholi y Cyd Bwyllgor Addysg fod gweithgareddau presennol maes llafur addysg gorfforol yn cynnwys nifer o weithgareddau wedi'u seilio ar ymgynghoriad gafodd ei gynnal yn 2015.
Fel rhan o'r cwricwlwm newydd yn 2025 fe fyddan nhw'n edrych ar ehangu rhestr y gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Ond mae'n drueni, meddai Mr Thomas, na fydd hynny'n digwydd mewn pryd i Osian.
"Fi yn gobeithio yn wir y byddan nhw yn newid y maes llafur yn 2025, ond y trueni mawr yw y bydd hynny yn rhy hwyr i Osian," meddai.
Mae mam Osian, Kat, yn dadlau bod ei mab wedi gweithio ers blynyddoedd ar wella ei sgiliau sglefyrddio ac y dylai gael cyfle i ddefnyddio'r sgiliau yna yn ei arholiad, gan ychwanegu'r gamp at restr sydd ar hyn o bryd yn cynnwys bocsio, seiclo, gymnasteg a jiwdo.
"Mae Osian 'di bod yn gweithio ar sglefrfyrddio ers yn fachgen bach, a dyna i gyd ma' fe'n 'neud trwy'r amser," meddai.
"Mae e yn joio a fel 'na fydd e nes bod e un diwrnod, gobeithio, yn 'neud hi mewn i Team GB a'r Olympics."
Fe gafodd sglefrfyrddio ei gynnwys fel camp am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.
Ar ôl cael ei gydnabod ar lwyfan chwaraeon mwya'r byd, mae Osian George a'i deulu yng Nghwm Gwnedraeth yn gobeithio y gall hefyd gael ei gydnabod mewn arholiadau TGAU yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022