Parc sglefrfyrddio'r Mwmbwls yn destun ffrae chwerw

  • Cyhoeddwyd
Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Parc Sglefrfyrddio'r Mwmbwls yn mynnu nad ydyn nhw'n cefnogi'r ymgyrch canu corn

Mae ffrae yn berwi yn y Mwmbwls wrth i rhai trigolion geisio atal ailddatblygiad parc sglefrfyrddio yno.

Mae'r dref lewyrchus ger Abertawe yn gartref i Mark Bailey - perchennog gwerthwyr ceir Trade Centre Wales - ac mae ef a thrigolion eraill yn galw am adolygiad barnwrol o benderfyniad Cyngor Abertawe i gymeradwyo'r ailddatblygiad.

Mae rhai o'r rheiny sy'n cefnogi'r datblygiad wedi annog gyrwyr i gau cyrn eu cerbydau tra'n gyrru heibio'r safle a thai'r rheiny sy'n ei wrthwynebu.

O ganlyniad i hynny mae trigolion wedi bod yn trafod y sefyllfa gyda'r heddlu, gan ddweud eu bod yn clywed sŵn cyrn ddydd a nos.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jason Williams bod "wir angen y cyfleuster newydd"

Mae cadeirydd Cymdeithas Parc Sglefrfyrddio'r Mwmbwls, Jason Williams yn mynnu nad ydyn nhw'n cefnogi'r ymgyrch canu corn, ond bod hynny yn "dangos cryfder y teimladau sydd gan y gymuned am yr ailddatblygiad".

"Rwy'n meddwl bod wir angen y cyfleuster newydd. Os edrychwch chi ar y ramp sydd yno nawr mae'n beryglus," meddai.

"Does gan Abertawe ddim cyfleusterau sglefrfyrddio fel rhannau eraill o'r wlad ac mae galw mawr amdano o fewn y gymuned."

Mae'r cynlluniau i'w ailddatblygu wedi bod ar y gweill ers tua thair blynedd, ac fe wnaeth Cyngor Abertawe eu cymeradwyo y llynedd.

Ond nawr mae grŵp o saith o bobl wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol i'r penderfyniad hwnnw.

'Ymgyrch o aflonyddu'

Mae Mr Bailey yn un o'r trigolion mwyaf blaenllaw i wrthwynebu'r cynlluniau, ac mae'n honni ei fod wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd hynny.

Mae'r gwrthwynebwyr hefyd yn cwestiynu'r faith fod y tir wedi cael ei drosglwyddo gan Gyngor Abertawe i Gyngor Cymuned y Mwmbwls, fydd yn goruchwylio'r datblygiad.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Bailey, Hugh Hitchcock ei bod yn "annerbyniol fod un o'r saith person sydd wedi gwneud cais am yr adolygiad barnwrol yma wedi bod yn destun ymgyrch o aflonyddu".

Ychwanegodd bod y penderfyniad gan Gyngor Abertawe yn "anghyfreithlon" a'i fod yn gobeithio y bydd y cyngor yn "condemnio ymddygiad ffiaidd" y rheiny sy'n cael eu honni o aflonyddu ar Mr Bailey.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Mr Bailey yn cefnogi sefydlu'r parc mewn lleoliad arall, a'i fod wedi cynnig talu am y cyfleuster newydd hwnnw.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond un ramp sydd ar y safle ar lan y môr y Mwmbwls ar hyn o bryd

Yr wythnos hon fe wnaeth fideo ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol sy'n dangos Mr Bailey a'i wraig yn wynebu criw o sglefrfyrddwyr ifanc ar safle'r parc presennol ar lan y môr.

Yn y fideo mewn nhw'n honni bod y criw wedi sarhau Mr Bailey wrth iddo ddychwelyd adref. Mae'r sglefrfyrddwyr yn gwadu hynny.

Dywedodd y cynghorydd Des Thomas, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Abertawe fod yr ymgyrch canu corn yn "blentynnaidd", gan apelio ar y ddwy ochr i bwyllo a gadael i'r system ddemocrataidd fynd rhagddo.

Ychwanegodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i honiadau'r trigolion, gan ddisgrifio ymddygiad y rheiny sy'n rhan o'r ymgyrch canu corn fel "anystyriol".

"Byddwn yn annog pobl i barhau i adrodd y digwyddiadau yma," meddai llefarydd, gan ychwanegu y bydd y llu yn gweithredu yn erbyn y rheiny sy'n gyfrifol ble fo angen.

Pynciau cysylltiedig