Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo tu allan i ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd

Mae dynes wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan gar y tu allan i ysbyty ar Ddydd Calan.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau faes parcio ger mynedfa Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych am tua 20:40 ar 1 Ionawr.

Bu farw'r ddynes, oedd yn ei 50au, ar 3 Ionawr o ganlyniad i'w hanafiadau.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'i theulu, gan apelio ar unrhyw un â lluniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig