Carreglefn: Dyn, 26, wedi marw ar ôl digwyddiad ar fferm

  • Cyhoeddwyd
CarreglefnFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw nos Fawrth wedi i ddyn gael anafiadau tra'n gweithio ar fferm yn ardal Carreglefn

Mae dyn 26 oed wedi marw ar ôl digwyddiad ar fferm yn Amlwch ar Ynys Môn.

Cafodd yr heddlu eu galw am 21:15 nos Fawrth ar ôl i ddyn gael anafiadau tra'n gweithio ar fferm yn ardal Carreglefn.

Dywed Heddlu'r Gogledd fod y dyn wedi'i gludo i Ysbyty Stoke ond ei fod bellach wedi marw o'i anafiadau.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth, meddai'r heddlu.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig