Disgyblion Ysgol Hafod Lon 'mor falch i fod yma'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Guto, un o ddisgyblion Ysgol Hafod Lon, fu'n tywys ein gohebydd Liam Evans o amgylch yr ysgol

"Dwi mor falch bo' fi yn yr ysgol yma."

Ar ddechrau tymor arall, mae cynnydd prisiau ynni a gwella ymwybyddiaeth y gymuned leol o anableddau ar frig yr agenda yn Ysgol Hafod Lon ger Porthmadog, a hynny wrth i BBC Cymru lansio eu hymgyrch Siarad Anabledd - ymgyrch sydd yn annog pobl i sgwrsio am anableddau.

Yn Ysgol Hafod Lon mae 117 o ddisgyblion yn derbyn addysg a phrofiadau bywyd er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y gymuned leol.

Mae 'na bwyslais yma ar wella sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn modd hyblyg a chreadigol wrth roi yr addysg orau posib.

"Nid dim ond canu a chwaraeon sydd yma ond 'da ni'n dysgu sgiliau gwerthfawr ac addysg i'n plant," medd y pennaeth, Donna Roberts.

Dysgu sgiliau bywyd

Ym Mlwyddyn 11, mae Guto yn dangos rhai o brif gryfderau'r ysgol a agorodd chwe mlynedd yn ôl.

Yma mae cyfleusterau arbennig fel ystafelloedd synhwyrau a phwll nofio hydro i helpu disgyblion ar eu taith drwy'r system addysg.

"Mae'r hoists yn dal chdi fyny ac yn llusgo chdi mewn," meddai Guto wrth eistedd ger y pwll nofio arbennig.

"'Dach chi'n mynd lawr wedyn a ma'n helpu yn brilliant."

Yn dilyn llawdriniaeth yn 2019 fe gafodd Guto y cyfle i ddefnyddio'r pwll i wella ei symudedd.

"Ma'n relaxio'r cyhyrau a phan 'dach chi yn y pwll 'dach chi'n cael nofio ac ati - mae'n brilliant," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canmoliaeth i'r pwll nofio hydro sydd wedi'i leoli yn yr ysgol

Fe agorodd yr ysgol chwe mlynedd yn ôl gan gynnig cyfleusterau heb eu hail i ddisgyblion sydd efo bob math o anableddau.

Ond mae'r ysgol yn pwysleisio mai eu blaenoriaeth ydy sicrhau bod gan ddisgyblion sgiliau bywyd i allu byw yn annibynnol.

'Mi ydan ni'n poeni'

"Mae'r adnoddau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr," meddai'r pennaeth, Donna Roberts.

Gydag ystafelloedd synhwyrau sy'n llawn dodrefn i gyffwrdd a goleuadau i weld, mae Ms Roberts yn dweud bod costau ysgol o'r fath ar gynnydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Donna Roberts yn poeni am y costau ynni cynyddol

"Mae costau ynni wedi codi yn sylweddol ac oherwydd y goleuadau a'r pwll nofio, sy'n gynnes iawn, mae o wedi gwneud gwahaniaeth mawr," meddai.

"Ac efo'r toriadau sydd i ddod... mi ydan ni'n poeni."

Mae athrawon a staff cymorth yr ysgol yn canolbwyntio ar roi profiadau bywyd go iawn i ddisgyblion o bob oed.

Mae'r disgyblion hŷn yn cael gwneud defnydd o gaffi yr ysgol, Paned Penrhyn, er mwyn dysgu sut mae gweithio mewn caffi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion yn cael profiadau gweithio mewn caffi yn Paned Penrhyn

Mae disgyblion hefyd yn cael mynd mewn i drefi a phentrefi lleol i ymweld â busnesau.

"'Dan ni'n dilyn llwybr dysgu y plant, be' maen nhw isio 'neud, be' ydy'u dyheadau nhw at y dyfodol," meddai'r pennaeth.

"'Dan ni'n cynllunio'r addysg rownd hynna.

"Yn y caffi mae 'na brofiadau a defnyddio peiriannau go iawn at fyd gwaith, ac yr un fath efo amserlenni bws - 'dan ni'n dysgu nhw sut i ddysgu amserlen."

Llygaid ar y dyfodol

Gyda chydweithio yn y gymuned ar waith, mae'r ysgol yn dweud ei bod am wneud mwy o hynny dros y misoedd sydd i ddod.

"'Dan ni eisiau hyfforddi pobl mewn caffis lle 'dan ni'n ymweld, sgiliau Makaton a sgiliau cyfathrebu drwy symbolau, fel bod ni'n agor y drws i'n disgyblion allan yn y gymuned ac yna rhoi yr hyder i'r gymuned gyfathrebu efo ni," meddai Ms Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd adeilad newydd Ysgol Hafod Lon yn 2016 - cyn hynny roedd yr ysgol wedi'i lleoli yn Y Ffôr

Gyda phwyslais ar yrfaoedd, mae Guto yn dweud mai ei freuddwyd ydy bod yn hyfforddwr pêl-droed, gan ddweud bod penderfyniad Gareth Bale i roi'r gorau iddi yn "siomedig".

Un arall sydd â'i fryd ar weithio ym maes chwaraeon ydy Lewis.

Dros yr haf sydd i ddod bydd yn dechrau ymweld ag ysgolion prif ffrwd i hyfforddi rygbi yn dilyn hyfforddiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis â'i fryd ar hyfforddi rygbi

"Dwi 'di bod yn 'neud sgiliau pêl a pethau fel 'na," meddai.

Mae ganddo gadair olwyn arbennig, meddai, sydd efo "plât metel ar y ffrynt" er mwyn ei helpu.

"Pan dwi'n gadael Ysgol Hafod Lon dwi eisiau coachio, a dwi'n mynd i Glwb Rygbi Pwllheli bob wythnos i watchiad gêm."

Hyfforddwyr y dyfodol felly yn dechrau ar eu taith yn Ysgol Hafod Lon, mewn ysgol yn ôl Guto sydd yn cynnig "cyfleoedd heb eu hail".

"Dwi mor falch bod fi yn yr ysgol 'ma," meddai.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i bbc.co.uk/siaradanabledd.

Pynciau cysylltiedig