Eisteddfod rithiol ar gyfer plant ag anghenion arbennig

  • Cyhoeddwyd
Band Ysgol Plas BrondyffrynFfynhonnell y llun, Ysgol Plas Brondyffryn
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r disgyblion wedi cyfansoddi cân wreiddiol ar y thema Hadau'r Dyfodol

Am y tro cyntaf erioed mae rhai o ysgolion anghenion arbennig Sir Ddinbych wedi cynnal eisteddfod rithiol, gyda'r gobaith o ddatblygu hyder eu disgyblion.

Mae'r eisteddfod, sydd wedi ei chynnal ar y cyd rhwng Ysgol Plas Brondyffryn ac Ysgol Tir Morfa, wedi rhoi'r cyfle i ddisgyblion cynradd ac uwchradd arddangos eu doniau drwy ganu, dawnsio a gweithgareddau celf.

Yn ôl y trefnwyr, mae'r eisteddfod rithiol wedi rhoi profiadau a chyfleoedd newydd i ddisgyblion sydd methu cael mynediad at gystadlaethau fel pawb arall.

Fe gafodd yr eisteddfod ei seilio ar y thema Hadau'r Dyfodol, sy'n edrych tuag at ddyfodol gwell wedi dwy flynedd anodd y pandemig.

Y bwriad oedd cynnal yr eisteddfod wreiddiol yn 2020 rhwng y ddwy ysgol, ond pan darodd Covid roedd yn rhaid addasu'r cynlluniau.

'Dathlu eu hymdrechion'

Gyda'r eisteddfod rithiol bellach i'w gweld ar-lein, dolen allanol, mae'r trefnwyr yn dweud bod y cystadlaethau wedi bod yn gyfle i'r disgyblion "arddangos eu cryfderau a chyfathrebu" i'r gymuned ehangach.

"Fe gafodd yr eisteddfod ei hysbrydoli gan gystadleuaeth athletau oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn rhwng ein hysgolion," meddai Nan Roberts, anogwr ymddygiad yn Ysgol Plas Brondyffryn.

"Dwi'n meddwl bod y disgyblion a'r rhieni yn cael bod yn rhan o gymuned ehangach ac yn cael gweld eu hymdrechion yn cael eu dathlu.

"Dwi'n siŵr bod o wedi magu hyder i rai o'r disgyblion."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Plas Brondyffryn
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gweithiau celf a gafodd eu cyflwyno gan ddisgyblion ar gyfer yr eisteddfod

Mae disgyblion o'r ddwy ysgol wedi bod yn siarad ac yn ystyried eu dymuniadau ar gyfer y dyfodol, a gyda'r thema Hadau'r Dyfodol, mae rhai o'r disgyblion wedi cyfansoddi cân wreiddiol sy'n dangos hynny.

Mae'r gystadleuaeth hefyd yn gweu y cwricwlwm newydd, gan gynnwys pynciau fel y gwyddorau, mathemateg a'r celfyddydau.

'Rhoi gymaint o hyder iddyn nhw'

Un o'r disgyblion sydd i'w weld yn canu yn y fideos yn yr eisteddfod rithiol ydy Sion, o'r chweched dosbarth.

"Canais gyda fy nosbarth a mi 'nes i chwarae offerynnau yn y band," meddai.

"Mi nes i ddewis y gân Firework gan Katy Perry oherwydd ei fod yn gân am ddangos eich potensial a bod yn bositif am fywyd."

Ychwanegodd ei fod wedi mwynhau "canu gyda fy nosbarth a bod ar-lein ac ar y teledu, fel bod fy nheulu yn gallu gweld be o'n i'n 'neud".

Ffynhonnell y llun, Ysgol Plas Brondyffryn
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y trefnwyr, mae'r eisteddfod rithiol wedi rhoi profiadau a chyfleoedd newydd i'r disgyblion

Yn ôl y trefnwyr mae'r eisteddfod wedi bod yn hwb ac yn her i ddisgyblion edrych ymlaen ato wedi dwy flynedd o gyfyngiadau'r pandemig.

"Mi oedd plant mor hapus i ddod 'nôl i'r ysgol ac mae gwneud hyn wedi rhoi gymaint o hyder iddyn nhw," meddai Nan Roberts.

"Mae 'di bod yn ddwy flynedd anodd, 'di gorfod aros adref, maen nhw wedi cymdeithasu ar-lein, ond di' o ddim byd fel gweld eich gilydd.

"Efo rhai ni, mae gweld wyneb, gweld emosiynau, mae'n bwysig."

Gobaith y trefnwyr rŵan ydy parhau i ehangu'r eisteddfod dros y flwyddyn sydd i ddod, gan wahodd rhagor o ysgolion y cylch i gymryd rhan a sicrhau bod modd i ddisgyblion o bob gallu fwynhau'r wefr o gystadlu a pherfformio.

Pynciau cysylltiedig