'Angen addasu' wrth i nifer fawr o gapeli Ceredigion gau
- Cyhoeddwyd
"Rhaid addasu a pheidio bod yn geidwadol mewn unrhyw ffordd os am gynnal oedfaon yng nghefn gwlad Ceredigion bellach," yn ôl gweinidog yn y sir ers 1979.
Daw sylwadau'r Parchedig Stephen Morgan wrth i nifer cynyddol o gapeli Presbyteraidd gau yn Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro.
Yn 2018 roedd 69 o eglwysi Presbyteraidd yn yr henaduriaeth, ac roedd nifer yr aelodau yn 2,034. Ond erbyn 2021 roedd nifer yr eglwysi yn 58 a nifer yr aelodau wedi gostwng i 1,330.
Ers 2021 mae dau gapel arall wedi cau yn swyddogol sef Penmorfa a chapel Tabernacl, Aberteifi yn ne'r sir, ac erbyn Medi 2022 roedd cau a gwerthiant chwe chapel arall yn cael ei drafod - sef Gosen yn Rhyd-y-felin, Dyffryn yng Ngoginan, Blaenplwyf, Pontgarreg, Capel Newydd Boncath a Nasareth yn Nhal-y-bont.
Dywed Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, bod y sefyllfa yn debyg ar draws Cymru, a bod yr enwad yn gyffredinol wedi colli 8% o aelodau rhwng 2020 a 2021.
Dywed hefyd bod llawer "gormod o bwyslais ar adeiladau".
'Siom ac arswyd'
Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg mae'r Parchedig Stephen Morgan yn cadarnhau bod trafodaethau'n cael eu cynnal ar ddyfodol capeli Pen-uwch a Bethania yng nghanolbarth Ceredigion.
Mae un o flaenoriaid capel Llwynpiod ger Tregaron - sydd ar gau ers cyfnod Covid - yn dweud bod y swyddogion yno wedi holi barn aelodau am y dyfodol.
"Mae'n siom ac yn arswyd bod yna ddirywiad sydyn fel hyn ond mae'n rhaid i ni dderbyn nad oes neb ar ôl, a does dim galw am y capeli bellach," ychwanega Stephen Morgan, 86, sy'n parhau i gynnal oedfaon er ei fod yn rhannol ddall.
"Dyw hi ddim yn syndod. Mae gen i gofnod o'r gwasanaethau angladdol dwi wedi'u cynnal neu eu mynychu yn ystod fy nghyfnod fel gweinidog ac mae'r nifer yn 1,500 ond mae nifer y bedyddiadau yn rhyw 100 - dyw'r cydbwysedd ddim yna.
"Mae'r drefn fel yr oedd hi, fwy neu lai, wedi darfod o'r tir.
"Ond rhaid addasu ac estyn allan. Rhaid i ni fod yn ymarferol a gwahodd y gymuned Seisnig ac eraill i'n plith.
"Cymuned ddieithr a chymysg yw hi bellach yng nghefn gwlad - rhaid denu'r gymuned sydd wedi setlo yn yr ardal i fod yn rhan o'n gweithgarwch arferol.
"Mae'n bwysig cysylltu â'n gilydd, cydnabod ein gilydd ar yr un tir gwastad a byw'r efengyl y gorau medrwn ni, yn y berthynas yna rhyngom â'n gilydd."
Wrth gyfeirio at gyfarfod o'r fath a gynhaliwyd ym Mwlch-llan ddechrau'r mis dywedodd: "Ro'dd e'n gyfarfod llewyrchus lle o'dd pawb a oedd yn bresennol yn cyfrannu yn y ddwy iaith a doedd y cyfraniadau ddim, bob amser, yn cyffwrdd ag egwyddor Gristnogol.
"Mae hi mor bwysig addasu. Ni'n byw mewn oes hollol wahanol erbyn hyn."
Ychwanegodd mai cael eu hadeiladu i ateb dibenion y cyfnod wnaeth y capeli sy'n britho cefn gwlad Cymru, ond bod "dim defnydd" iddynt bellach.
"Fe'u hadeiladwyd er mwyn hwylustod taith gerdded dair gwaith ar y Sul - dyna pam eu bod o fewn llai na milltir i'w gilydd. Mae'r adeiladau yn mynd yn dreth bellach.
"Ond mae'n sioc clywed bod capeli fel y Tabernacl yn Aberteifi wedi cau. Roedd e mor llewyrchus ar ddechrau fy ngweinidogaeth i."
'Baich yr yswiriant yn pwyso'n drwm'
Mae Vaughan Evans yn un o flaenoriaid capel Llwynpiod ac wedi mynychu'r capel ers yn blentyn.
"Dyw'r dyfodol ddim yn llewyrchus iawn, fi'n ofan," meddai, "a hynny achos mae'r aelodau sydd gyda ni ar hyn o bryd yn mynd yn hŷn a does dim aelodau yn dod mewn.
"Mae'n rhaid i ni ystyried y dyfodol. Allwn ni ddim gadael pethau i fod. Mae'n drist, wrth gwrs, gan gofio bod ein cyn-deidiau wedi bod yn cario cerrig o gwar Llanddewi Brefi er mwyn codi'r capel ond mae eisiau i ni fod yn realistig.
"Ar ddiwedd y dydd mae'n amhosib cynnal yr adeiladau. Mae'r safle sydd gyda ni yn cynnwys festri a thŷ capel ac mae baich yr yswiriant yn pwyso'n drwm arnon ni hefyd.
"Mae'r capel wedi bod ar gau ers Covid ac ar hyn o bryd mae rhai ohonom yn ymuno â chapeli eraill. Rhaid i ni ystyried un ffordd neu'r llall."
Adeiladau 'anhylaw, anghyfforddus ac anghynaladwy'
Pan mae capel yn cau mae arian y gwerthiant yn cael ei rannu rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru a'r henaduriaeth y mae'n rhan ohoni.
"Mae nifer ein haelodau yn gostwng yn sylweddol bellach," meddai Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
"Roedd yna ostyngiad o 8% rhwng 2020 a 2021 ac wrth gwrs ry'n ni'n ddibynnol ar dâl aelodaeth.
"Mae'r cyfrifon diweddaraf yn dangos diffyg ariannol o £1m y flwyddyn ond ry'n yn derbyn rhwng £800,000 a £1.2m o gyllid o werthiant adeiladau ar hyn o bryd.
"Heb os mae Covid wedi cael effaith ac oes mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol. Yn sicr, mae yna ormod o bwyslais ar adeiladau - maen nhw'n anhylaw, yn anghyfforddus ac yn anghynaladwy.
"Does yna ddim synnwyr gwario ar wresogi capel am awr bob wythnos i lond dwrn o bobl tra bod eraill yn y gymuned yn methu fforddio gwresogi eu tai.
"Fel enwad ry'n ni newydd greu 14 o swyddi - swyddi mwy arloesol na sydd ynghlwm wrth adeilad na thraddodiad.
"Mae un o'r swyddi, er enghraifft, yn golygu gweithio ar y tir fel rhan o'n prosiect ecolegol. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phobl y tu allan ac fel rhan o hynny mae'n bosib addoli y tu allan.
"Mae rhai eraill yn golygu gweithio mewn ardaloedd lle nad oes tystiolaeth Gristnogol bellach. Yr hyn sy'n bwysig yw cychwyn o'r newydd - nid trawsnewid yr hyn oedd yn bodoli cynt.
"Mae cydweithio gydag enwadau eraill yn hanfodol - ac un o'r cwestiynau a fyddwn ni'n gofyn cyn galw gweinidog yw a oes trafodaeth wedi bod gydag enwadau eraill yn yr ardal.
"Mae hi mor bwysig cydweithio, cyd-ddyheu a deall ein gilydd os am sicrhau unrhyw ddyfodol."
Bydd y drafodaeth ar ddyfodol capeli cefn gwlad Ceredigion i'w clywed yn llawn arBwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022