Barddoniaeth i lenwi hen gapel yng Ngheredigion?
- Cyhoeddwyd
Mae cymdeithas leol o Geredigion yn gobeithio troi Capel y Tabernacl yn Aberteifi yn ganolfan farddoniaeth.
Yn ôl Cymdeithas Aberteifi, does "dim byd tebyg" yng Nghymru, ac mae eu cynlluniau ar gyfer adfywio'r adeilad ym Mhendre yn rhai "unigryw".
Gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cadarnhau y bydd y capel yn cael ei werthu, gobaith y gymdeithas yw codi digon o arian i brynu'r safle a sicrhau ei fod yn "dod yn ôl i'r gymuned".
Adeiladwyd Capel y Tabernacl presennol ym 1832. Mae'r adeilad hanesyddol yn un rhestredig Gradd II ac wedi'i leoli yng nghanol stryd fawr Aberteifi.
Yn ôl Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae'r capel wedi cael "dylanwad dwfn" ar fywyd "ysbrydol a diwylliannol" yr ardal dros 190 mlynedd.
Fodd bynnag, oherwydd dirywiad yn nifer yr aelodaeth dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw'n dweud nad yw bellach yn gynaliadwy fel man addoli ac "mae angen ei werthu".
Cloi'r drysau
Ar 29 Hydref 2022 cynhaliwyd gwasanaeth datgorffori'r capel.
Yn ôl y Parchedig Llunos Mai Gordon, a gynhaliodd y gwasanaeth, roedd y profiad yn un "poenus".
"Roedd 'na deimlad o siom a thristwch ynglŷn â'r oedfa a phob un oedd yn bresennol y diwrnod 'na," meddai.
"Roedden ni wedi cael oedfa fis ynghynt hefyd - yr oedfa olaf fel petai i'r ofalaeth - a ro'ch chi'n gallu teimlo'r awyrgylch, y naws, y tristwch. Profiad poenus i ddweud y gwir i bob un.
"Wrth gwrs, mae e'n digwydd ar draws Cymru gyfan, dwi'n gwybod, ond sylweddoli i ddweud y gwir, pan bod e'n digwydd i chi, pa mor anodd yw e i aelodau orfod cau drysau capel am y tro diwethaf."
Er y siom, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parch Nan Powell-Davies, fod "amseroedd wedi newid" ac mai "newid sydd rhaid i ninnau".
"Mae stori'r Tabernacl yn debyg i lawer o addoldai eraill ledled Cymru," meddai.
"Mae'n debyg bod llawer o ffactorau crefyddol a chymdeithasegol yn gyfrifol am hyn, ac fel enwad eglwysig rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn.
"Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymunedau ffydd hyfyw ledled Cymru, a hynny ar gyfnod o newid crefyddol mawr, fel y dangoswyd yn y canlyniadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar o gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.
"Ond mae hyn hefyd yn golygu nad ydym yn gallu cefnogi capeli y mae eu taith wedi dod i ben."
Er y bydd Capel y Tabernacl yn cael ei werthu, mae diddordeb lleol eisoes wedi cael ei ddatgan i brynu'r safle.
Mae Cymdeithas Aberteifi, mewn partneriaeth â grŵp cymunedol 4CG, wedi rhannu eu cynlluniau a'u gobeithion o droi Capel y Tabernacl yn Ganolfan Farddoniaeth.
Dywedodd Richard Jones o Gymdeithas Aberteifi bod y syniad wedi dod "sawl blwyddyn yn ôl".
"'Naeth teulu'r Hendre gysylltu â 4CG. O'n nhw newydd werthu'r fferm ac ro'dd llyfrgell Dic [Jones] gyda nhw, a do'n nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud gydag e," meddai.
"Felly, fe wnaethon ni feddwl, wel beth allwn ni wneud gydag e?
"Aeth rhai o'r directors mas i Iwerddon i'r Seamus Heaney Centre a'r Linen library i edrych am syniadau a o'dd y llefydd hynny mor llwyddiannus, ro'n ni'n ffaelu deall pam bod dim byd tebyg yng Nghymru, achos does dim canolfan farddoniaeth i'w gael yng Nghymru."
Er nad oedd safle addas yn lleol i wireddu eu gweledigaeth ar y pryd, dywedodd Mr Jones bod safle Capel y Tabernacl yn berffaith.
"Mae e'n ideal. Mae e yng nghanol y dre'," meddai.
"Mae pobl yn cerdded heibio bob dydd, ma' lle i barcio, ma' lle bus fan 'na ac mae e jest fel bod popeth wedi cydweithio gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i ni gael e."
Yn ôl Mr Jones, mae'r gymdeithas eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth apelio am grantiau i brynu'r capel, ond mae'n derbyn bod angen meddwl am ffyrdd arall hefyd o godi'r arian.
"Ni'n ffodus gyda'r prosiect, achos bod yr arts 'na, mae e'n hen adeilad a mae e'n ganol y dre, mae hwnnw'n helpu gyda grants, ond mae'n rhaid i chi wneud y matched funding.
"Byddwn ni siŵr o fod yn trïo codi arian ar JustGiving, neu rywbeth tebyg."
I rai sydd â chysylltiad agos a phersonol â'r capel, mae clywed syniadau am roi bywyd newydd i'r safle'n "codi calon".
"Mae Capel y Tabernacl yn meddwl lot, lot fawr i mi," meddai'r cerddor Meinir Jones Parry, sy'n wreiddiol o Aberteifi.
"Ces i fy medyddio yna, ges i fy nerbyn wedyn i'r Ysgol Sul ac i'r Capel, priodi, cymanfaoedd canu. Ma' tri o fechgyn gyda ni ac maen nhw wedi cael eu bedyddio 'na.
"Mae lot o atgofion hapus gyda fi yn y Tabernacl."
'Agor e ymhellach'
Roedd hi a'i mam hefyd yn organyddion yn y capel, a'i thad-cu Evan Owen James, Aber-porth, adeiladodd y festri fawr yng nghefn y Tabernacl.
"Ni'n gorfod derbyn nawr bod y capel yn mynd i gael ei werthu," meddai, "ond bydden i'n bersonol yn hoffi gweld y lle'n troi mewn i ryw ganolfan gymunedol, gelfyddydol.
"Mae 'na sôn fod barddoniaeth yn mynd i fod yn bwysig yn y capel. Ma' rhyw syniadau yn mynd o gwmpas, ond bydden i falle yn agor e ymhellach 'to falle o ran cerddoriaeth, celfyddyd, ac yn y blaen.
"Ma' hwnna yn codi calon gan bo' ni'n cofio bod e yn dod i ben, ond falle bod 'na rhyw barhad 'na hefyd."
Yn ôl Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae gyda nhw "rwymedigaeth gyfreithiol glir iawn" tuag at y Comisiwn Elusennau pan ddaw'n fater o reoli gwerthiant eu heiddo.
"Mae gennym fandad i sicrhau eu bod yn cael eu gwerthu'n briodol am bris y farchnad," meddai'r ysgrifennydd cyffredinol, y Parch Nan Powell-Davies.
"Yna mae'r arian a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gweinidogaethu a gwaith cenhadol EBC ledled Cymru."
Er nad oes sicrwydd felly pwy fydd perchnogion Capel y Tabernacl tua'r dyfodol, mae Richard Jones a Chymdeithas Aberteifi'n benderfynol o frwydro am y safle a'i weld yn "dod yn ôl i'r gymuned".
"Dwi'n credu unwaith bydd business plan 'da ni lan, byddwn ni'n gallu profi bod e yn mynd i weithio, a'r ffaith bod dim byd fel hyn i gael yng Nghymru.
"Maen nhw'n dweud 'gwlad beirdd a chantorion'. Mae dyletswydd arnon ni fel pobl Cymraeg i gael canolfan farddoniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022