Merched pêl-droed Cymru i gael tâl cyfartal i'r dynion
- Cyhoeddwyd
Bydd dynion a merched Cymru'n cael eu talu yr un faint am chwarae pêl-droed dros eu gwlad o hyn ymlaen, a hynny am y tro cyntaf.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai'r cytundeb yn dod i rym yn syth.
Er mwyn gwneud y cytundeb yn bosib mae dynion Cymru wedi cytuno i doriad o 25% i'w tâl nhw, gan olygu bod modd rhoi cynnydd o 25% i'r merched.
"Rydw i'n falch iawn am y tâl cyfartal, achos mae'n arwydd o gydraddoldeb," meddair rheolwr Merched Cymru, Gemma Grainger.
'Edrych i'r dyfodol'
Bydd y cytundeb tâl yn rhedeg hyd at 2027, gyda Chymru'n ymuno â gwledydd fel yr UDA, Lloegr, Brasil, Awstralia, Norwy a Seland Newydd i dalu eu timau'n gyfartal.
Fe ddechreuodd trafodaethau Cymru ar y mater ym mis Tachwedd 2021 gyda rhai o brif chwaraewyr y garfan, ac fe ddaethon nhw i gytundeb ar ôl i bob aelod o dîm y dynion gytuno i leihau eu ffioedd rhyngwladol nhw.
Mewn datganiad fe ddywedodd CBDC fod y cyhoeddiad yn ymgorffori eu hethos o fod 'Gyda'n Gilydd, Yn Gryfach'.
"Ni'n obeithiol y bydd hyn yn sicrhau bod sêr y dyfodol, bechgyn a merched, yn gweld bod cyfartaledd ar draws pêl-droed rhyngwladol Cymru, sydd yn rhan hynod bwysig o gymdeithas," meddai'r datganiad.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney fod y gymdeithas yn ceisio "edrych i'r dyfodol".
"Mae'r cytundeb yma yn gam arall tuag at fod yn un o fudiadau chwaraeon gorau'r byd, a hoffwn i ddiolch i'r timau Dynion a Menywod am gydweithio'n wych i sicrhau bod y cytundeb yn cael ei gwblhau."
Bydd dynion Cymru yn dechrau eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Euro 2024 ym mis Mawrth, gan wynebu Croatia, Twrci, Armenia a Latfia yn eu grŵp rhagbrofol.
Ar ôl methu allan o drwch blewyn ar le yng Nghwpan y Byd eleni, her nesaf tîm y merched fydd cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd sy'n dechrau ym mis Medi eleni, ac yn dylanwadu ar grwpiau rhagbrofol Euro 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022