Byw drwy Covid gydag MS

  • Cyhoeddwyd
Rhys Miles ThimasFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Miles Thomas: "...allai ddim peidio ond meddwl fod rhai gwersi o gyfnod y pandemig wedi mynd yn angof."

Mae Rhys Miles Thomas yn gyfarwyddwr ac awdur sy'n byw gydag MS, neu sglerosis ymledol (multiple sclerosis), cyflwr sy'n gallu effeithio ar symudiad a chryfder y corff. Yn ystod y cyfnod clo roedd y ffaith bod llawer o'n bywydau wedi symud ar-lein yn fendith ac yn "agor bywyd lan" i Rhys a phobl ag anableddau tebyg - ond ydyn ni wedi anghofi'r gwersi a ddysgon ni dros y pandemig?

Mae Rhys wedi bod yn siarad gyda phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddo am eu profiad nhw o gyfnod y pandemig a'u bywydau ers hynny.

Dyma gip ar deimladau Rhys ers Covid a'r lleisiau eraill oedd i'w clywed ar raglen radio Dros Ginio ddydd Iau.

Y byd yn teimlo'n llai

Rhys: Rai blynyddoedd ar ôl y cyfnod clo mae'r byd wedi dod 'nôl i 'normal'. Wy'n clywed y ceir a'u cyrn yn sgrechian nawr, yn lle gynt o'n i arfer clywed yr adar yn canu.

Mae'n dda gweld pobl yn mynd allan a mwynhau, mynd i'r theatr, mynd i gigs ac yn y blaen. Wy'n rili hapus fod pobl yn gallu gwneud hyn a ma' fe'n grêt i weld y rhyddid yna.

Ond 'dwi jest yn drist fod y rhyddid o'n i'n teimlo o gael pob dim ar-lein, ar Zoom ac ati, wedi mynd. Rwy' dal yn gweld hysbysebion ar gyfer rhai digwyddiadau ar-lein, ond dim lot. Ma'r byd yn teimlo'n fach iawn rhywsut.

Beth nawr?

Dwi ddim am gloi pawb lan eto. Dwi ddim am atal pobl rhag mynd allan a chymysgu, mwynhau digwyddiadau a mynd i'r gwaith - jest i fod yn saff.

Rwy'n ymddiriedolwr gyda'r Theatr Genedlaethol ac yn deall yn llwyr yn ariannol ac yn gymdeithasol fod rhaid i'r byd agor lan eto.

Rwy' am i bobl gael eu rhyddid. Ond plîs, byddwch yn wyliadwrus ac yn ofalus gyda'r rhyddid yna; falle i chi dim ond annwyd gwael yw e, ond i bobl fel fi gall fod yn erchyll.

Sioned Roberts, a gafodd ddiagnosis pan oedd hi'n athrawes addysg gorfforol

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis MS yn gyntaf yn 2006 pan oedd hi'n gweithio fel athrawes addysg gorfforol.

"Dwi dal yn Sioned, 'so Sioned wedi newid, yr unig peth sydd wedi newid yw corff Sioned. Ma'r ffrindiau sy'n nabod fi [yn gwybod], yn anffodus dwi yn party animal! A dwi ishe neud pethe a dwi ddim yn fodlon cau'n hunan mewn...

"O'n i'n clywed bobl yn dweud 'Oh my gosh sai 'di gweld neb, sa' i 'di mynd unman' a ti'n meddwl, croeso i fy mywyd i. Fe helpodd [technoleg] 'da pawb, achos o't ti'n gallu 'neud Zoom a mewn ffordd o'n i'n gweld mwy o bobl na baswn i 'di gweld cyn hynny."

Rhys: Felly beth sydd wedi digwydd i fi ers y cyfnod clo? Mae fy MS yn sicr wedi mynd yn waeth - ma' fe'n fwyfwy anodd i fi gerdded nawr. Dyma fy realaeth o fyw gyda MS.

Ond wy'n gorfod ceisio gwneud rhywbeth. Yr ofn s'da fi yn y diwedd yw y bydd MS yn stopio fi rhag gwneud unrhyw beth. So rwy'n ceisio gwneud pob dim 'wy'n gallu i neud fi'n hapus nawr er i fod e'n anodd! A ma' gweld Mam a Dad yn un o'r pethe 'na sy'n rili neud fi'n hapus - so na'i neud unrhyw beth posib i fynd adre i Alma yn Sir Gaerfyrddin - ble wy'n dod o - i weld nhw!

O'n i arfer bod yn llwyddiannus fel actor. Ond o'dd rhaid i fi gymryd saib hir i ffwrdd i ganolbwyntio ar fy iechyd. Rhoddodd y cyfnod clo'r wmff i fi drial mynd nôl i weithio - ac ers hynny 'wy wedi cyfarwyddo dwy ffilm fer, a 'di ysgrifennu nifer o wahanol sgriptiau.

So er bod fy nghorff yn ymladd yn erbyn fi 'wy yn ceisio gwneud rhywbeth tra 'wy'n gallu!

Eirian Lewis o Templeton, Sir Benfro

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirian Lewis yn byw yn agos i Templeton, Sir Benfro. Mae ganddo 'secondary progressive' MS ers 2000

"Chi'n datblygu i fyw gyda MS a dwi'n cael spotiau du ond dwi'n weddol hapus yn fy mywyd. Ma' gwraig da 'da fi, ma hi'n edrych ar ôl fi, mae Gwennie y ci yn 'neud i fi 'werthin pob dydd. Oni bai am yr afiechyd hyn dwi'n hapus.

"Mis Mai priododd merch Janet a finne - Molly, a 'na beth o'dd dydd arbennig! Ac yn y parti yn y nos o'n i mas yn y wheelchair yng nghanol e, ac o'n i'n danso yn y wheelchair! Live for today because tomorrow never comes."

Rhys: Felly, wedi'r cyfnodau clo, y cadw pellter ac yna'r ail-agor mawr, ble y'n ni nawr? I berson gydag anabledd roedd y cwis dros Zoom a'r perfformiadau rhithiol yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau roedd eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

Wrth i'r byd ailagor yn llawn llynedd, allai ddim peidio â meddwl fod rhai gwersi o gyfnod y pandemig wedi mynd yn angof. Mae rhai ohonom fydd wastad yn gorfod bod ychydig yn fwy gofalus, ac er mor braf yw dychwelyd i'r arferol bydden i'n annog pawb i fod yn wyliadwrus ac ystyriol o hyd.

Gyda'r gobaith bydd yn diflannu yn llwyr, ac yn fuan, na'i gwrdd â chi allan yna am ddiod rhywle!

Mererid Williams o Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mererid Williams o Aberystwyth ddiagnosis yn 2012: "Dwy'n teimlo'n fwy ynysig nawr fod ni wedi pasio'r Freedom Day yma nag o'n i yn ystod y cyfnod clo."

"Un peth amdano ni ,'y'n ni wedi datblygu'r sgiliau i ddelio gyda hunan-ynysu a bod tu fewn, ac o'dd hunan-ynysu yn hollol newydd i'r byd achos 'y ni ddim yn clywed am bobl fel ni sydd falle'n gorfod aros tu fewn.

"Os ti'n digon cryf - neud e, achos ti ddim yn gwbod pryd byddet ti'n colli hyn am byth, yn colli'r gallu i neud pethe chi'n hoffi neud. Dwi'n canu bob dydd... Dwi'n credu bod e mor bwysig pan ni'n byw gyda cyflwr fel MS i ffeindio'r pethe bach yna i godi'n calonau ni.

"'Nath 'y mhentref i, Llanbadarn Fawr, setio lan grŵp ar Facebook i helpu ein gilydd ac i helpu pobl bregus neu bobl o oedran ac o'dd e'n grêt fod pobl yn gwylio allan am ei gilydd.

"Er bod y grŵp dal ar Facebook dydyn nhw ddim yn cynnig yr un math o gymorth. 'Sdim rhagor o 'ydi pawb yn iawn, angen rhywbeth o'r siop?' A dwi'n credu bod fi'n colli hwnna... Dwi'n teimlo'n fwy ynysig nawr fod ni wedi pasio'r Freedom Day yma nag o'n i yn ystod y cyfnod clo."

Mae adroddiad llawn Rhys Miles Thomas gyda chyfraniadau gan Sioned Roberts, Eirian Lewis a Mererid Williams i'w clywed ar Dros Ginio, Radio Cymru 19/01/2023 am 28 diwrnod.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig