Byw gyda MS: 'Gwneud pethau am y tro olaf'
- Cyhoeddwyd
Mae Siân Roberts yn wreiddiol o Bencader yn Sir Gaerfyrddin ond mae'n byw yn Nhrefor, Gwynedd, gyda'i gŵr Dafydd lle fagon nhw dri o blant.
Chwe mlynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o multiple sclerosis, sef cyflwr hunanimiwn sy'n ymosod ar y brif system nerfol gan effeithio ar symudiad y coesau a breichiau, balans a golwg ymhlith pethau eraill.
Bu Siân yn siarad gyda rhaglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru am y cyflwr ac am sut mae hi'n ymdopi gyda'r afiechyd yn ymledu.
"Ro'n i ar lan y môr pwy ddiwrnod ac ro'n i'n meddwl 'sgwn i pryd oedd y tro diwethaf i mi gerdded ar y traeth. Do'n i ddim wedi sylweddoli ar y pryd mai dyna fyddai'r tro olaf i mi gerdded ar dywod."
Yn ddiweddar, mae Siân wedi bod yn sylwi ei bod hi'n gwneud mwy a mwy o bethau am y tro olaf wrth i'r afiechyd MS ymledu.
Dywedodd: "Mae 'na lot o bethau chi 'di gwneud am y tro diwethaf a dydych chi ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd. Pethau fel rhoi dillad ar y lein neu fynd i dŷ rhywun ar ben eich hunan."
Gohirio'r Eisteddfod
Mae Siân yn dweud ei hun ei bod hi wrth ei bodd yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ac roedd clywed fod Eisteddfod Tregaron ac Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wedi'u gohirio yn siom fawr iddi.
"Daeth y newyddion na fyse 'na ddim 'Steddfod yn 2021 ac o'n i'n meddwl bosib mai 'Steddfod Llanrwst oedd y 'Steddfod olaf i mi erioed. Dw i wrth fy modd yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol, ond ers i'r MS ddechrau dw i wedi bod yn sylwi o 'steddfod i 'steddfod y ffordd dw i wedi bod yn dirywio."
Yn sgil yr MS mae Siân a'i gŵr Dafydd wedi gorfod gwneud addasiadau i'w cartref er mwyn hwyluso tasgau o ddydd-i-ddydd.
Addasu'r cartref
"Wrth i'r parlys ymledu ac wrth i bethau fynd yn fwy anodd i'w gwneud dw i 'di cael amryw o bethau i wneud bywyd yn haws. Pethau bach fel peth i helpu fi wisgo sannau, neu peth i fachu yn fy nhroed i ddod mas o'r car, a phethau fel ramp i fynd o'r tŷ, y sgwter, a hoist i'r car a stairlift."
Y newid mawr diweddaraf yw rhoi wet room yn y tŷ.
"Roedd mynd i'r gawod yn strach o'r blaen. Wnaethon ni benderfynu cael wet room rhag ofn 'se angen i rywun ddod i fy helpu i yn y dyfodol. Dydy o ddim cweit wedi gorffen, mae eisiau rhyw rails eto. Dyna sychwr hefyd… sy'n lot o help fel bod dim angen ffidlan efo rhyw dywelion."
Mae bywyd yn newid i'r nain i ddau o Wynedd, lle mae tasgau'n mynd yn anos dygymod â nhw ac mae'n gwneud pethau "am y tro diwethaf".
Mae'n deimlad rhyfedd, meddai hi: "Mewn ffordd, mae'n braf bo' chi ddim yn sylweddoli eich bod chi'n gwneud [y pethau] hyn am y tro diwethaf. Ond mae'n rhyw deimlad bod 'na bethau roeddech chi'n arfer eu cymryd yn ganiataol wedi mynd o'ch gafael chi."
Hefyd o ddiddordeb