Apêl wedi marwolaeth perfformiwr drag yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Darren MooreFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Darren Moore ei ddarganfod yn ardal Plas Windsor y ddinas ar 22 Ionawr

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wrth ymchwilio i farwolaeth perfformiwr drag yng nghanol Caerdydd.

Cafodd corff Darren Moore, oedd yn 39 oed ac o Gasnewydd, ei ganfod yn ardal Plas Windsor y brifddinas am 19:36 nos Sul.

Mae ditectifs yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld Mr Moore, oedd wedi perfformio dan yr enwau CC Quinn a Crystal Coutoure, yn yr oriau mân.

Cafodd ei weld ddiwethaf tua 05:00 fore Sul yn ei ddillad drag. Roedd colur llawn ar ei wyneb, roedd yn gwisgo ffrog werdd lachar, wig felen golau, esgidiau diamante sodlau uchel a bag.

"Mae archwiliad post-mortem y Swyddfa Gartref wedi ei gynnal ac mae rhagor o archwiliadau'n mynd rhagddynt i gadarnhau achos y farwolaeth," dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Raikes, o Dîm Ymchwilio Troseddau Mawr Heddlu De Cymru.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth ragorol i'r ymchwiliad hyd yn hyn ac rwy'n apelio i unrhyw un â gwybodaeth i ddod ymlaen."

Apeliodd hefyd i bobl ymatal rhag dyfalu beth ddigwyddodd ar y cyfryngau cymdeithasol a "gadael i'r ymchwiliad heddlu fynd yn ei flaen".

'Enaid y parti'

Mae'r heddlu wedi sefydlu ystafell ymchwilio arbennig yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Moore, sy'n ei ddisgrifio fel "gŵr, mab, brawd, ewythr a chyfaill serchus".

Dywed ei deulu mewn datganiad: "Fe oedd wastad enaid y parti ble bynnag yr aeth."

Mae nifer o deyrngedau wedi eu rhoi iddo, gan gynnwys neges o gydymdeimlad gan y canwr a ddaeth i amlygrwydd yn y 1980au, Hazell Dean.

Mae gŵr Mr Moore, sydd hefyd â'r enw Darren, a'r teulu wedi gofyn am amser a phreifatrwydd i alaru.

Bydd gwylnos yn cael ei gynnal er cof amdano yng Nghaerdydd nos Fercher, gan gychwyn yn Churchill Way am 20:30 cyn symud i dafarn y Golden Cross am 21:00.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cordon heddlu yn parhau yn ei le yn ardal Plas Windsor

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer: "Rydym yn deall bod yna sioc a gofid o fewn y gymuned yn lleol ac yn ehangach yn dilyn marwolaeth Darren Moore, oedd yn berfformiwr drag adnabyddus yng Nghaerdydd.

"Tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo, bydd ein Tîm Plismona Cymdogaeth, yn ôl yr arfer, yn parhau i fod yn weledol yng nghanol y ddinas.

"Mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o gydnabod, dathlu a gwarchod cydraddoldeb ac amrywiaeth.

"Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â Heddlu De Cymru yn gyfrinachol."