Cathryn Gwynn yn cofio cariad ei rhieni ar Ddydd Santes Dwynwen
- Cyhoeddwyd
Mae Cathryn, Elinor a Rhys Gwynn wedi clywed lleisiau eu rhieni fel cariadon ifanc am y tro cyntaf.
Daw hyn ar ôl i raglen Cofio ar Radio Cymru chwarae clip archif o 1952 o'r diweddar T. Gwynn Jones a Mairwen Lewis.
Yn y clip, mae'r ddau gariad sy'n fyfyrwyr Hanes Cymru a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi mynd am dro i diroedd Plas Nanteos ac maent yn cael eu holi gan y gohebydd Ifan O. Williams.
Yn ôl Mairwen Lewis, o Abergwaun ar y pryd: "Dod i fyny yma i wylio'r machlud wnes i - mae'n hardd iawn o fan hyn," a'i chariad T Gwynn Jones o Gorwen yn dweud ei fod wedi mynd yno "i swotio at ei arholiadau."
Blaguro wnaeth eu perthynas gan briodi, magu teulu, rhannu'r un angerdd tuag at ddiwylliant Cymru, bod yn gymwynaswyr bro ac yn gyd-awduron, hyd nes i'r ddau farw, Gwynn yn 2015, a Mairwen yn 2019.
Dros 70 mlynedd ers i'r clip gael ei darlledu'n wreiddiol ar y rhaglen radio Llwybr i'r Mynydd (1952), Cathryn Gwynn, un o'u tri o blant sy'n cofio cariad ei rhieni ar Ddydd Santes Dwynwen.
Clywed clip o Mam a Dad yn gariadon yn yr 1950au
Roedd derbyn y clip bychan yma o leisiau Mam a Dad pan oedden nhw'n fyfyrwyr yn brofiad hyfryd. Peth rhyfeddol oedd cael eu clywed mewn cyfnod mor bell yn ôl, pan oedden nhw'n gariadon dyddiau coleg yn Aber - Mam yn 19 a Dad yn 24 pan recordiwyd y cyfweliad byr.
Dyma wrando eto ac eto ar y darn. Roedd yn gymysgedd o'r cyfarwydd a'r dieithr. Gyda'r blynyddoedd fe newidiodd acenion a meddalodd ynganiad. Ond yn nhinc eu llais ac ambell ebychiad, gallwn glywed y cynhesrwydd a'r hwyl oedd yn sail i'w perthynas oes.
Mae rhyw awgrym bach yn y darn eu bod wedi cael eu 'darganfod' ar berwyl rhamantus - ond ry'n ni'n gwybod i sicrwydd fod y berthynas glos a gynhaliodd y ddau am 64 o flynyddoedd wedi dechrau rhyw flwyddyn neu ddwy cyn i'r cyfweliad hwn gael ei recordio ym 1952.
Rhamant wythnos 'Y Glas'
Ar hyd ei bywyd byddai Mam wrth ei bodd yn dweud hanes eu cyfarfod cyntaf wrthon ni'r plant, ac yna'r wyrion maes o law, gan fwynhau yr ail-adrodd bob tro.
Pan fyddai hi'n dechrau ar y stori, gyda'i gwên lawen a rhyw winc fach, rolio'i lygaid a wnâi Dad a gwadu'r manylion rhamantus gyda rhyw 'Duw na, Mairwen, ti'n gor-ddweud hi fan'na'.
Ond fe lynodd Mam at ei stori hapus ar hyd ei bywyd - a'r ddau yn deall ei gilydd i'r dim, wrth gwrs. (Gwenais wrth glywed Mam yn dweud yn y clip mai dod am dro i weld y machlud a wnaeth hi, tra bod Dad yn haeru ei fod yno i swotio! Dyna'r ddau i'r dim - Mam yn mwynhau direidi rhamant, a Dad yn rhyw esgus wfftio a phryfocio).
Yn 17 oed, enillodd mam ysgoloriaeth i Aberystwyth, yn ferch ifanc a dibrofiad o Abergwaun, ond yn awchu am y bywyd cyffrous newydd o'i blaen. Yn ystod wythnos 'Y Glas', reit ar ddechrau ei gyrfa golegol, pwy ddaeth i chwilio amdani yn ei llety ar y prom ond myfyriwr o Gorwen oedd wrthi'n ceisio trefnu Noson Lawen gynta'r tymor i gymdeithas y 'Geltaidd'. Dad oedd hwnnw.
Roedd arno angen pianydd a chyfeilydd ar frys - ac wedi deall ei bod yn dda am chwarae'r piano. Roedd Mam yn ei thro yn falch o gwmni'r myfyriwr hwyliog, caredig yma i'w hebrwng a'i helpu i setlo. Cymerodd Dad hi o dan ei adain o'r cychwyn a dyna ddechrau'r stori, o'r tymor cyntaf oll.
Cytunodd Mam i gyfeilio - ac fel yr ysgrifennodd yn ei hunangofiant flynyddoedd wedyn, 'Dyna daro bargen. Bargen a aeddfedodd yn hyfryd i fod yn fargen oes.'
Picnics o Sir Benfro i Sir Feirionnydd
Roedd y darlun a baentiwyd i ni o'r blynyddoedd hynny cyn ein bodolaeth ni'n tri, Elinor a Rhys a finne, yn un o gyfnod llawn sbort - bywyd coleg yn llawn gweithgarwch a chyfeillion, a'r ddau yn weithgar gyda chymdeithasau niferus.
Mae yna luniau hardd ohonyn nhw, yn lywyddion y myfyrwyr, yn eu dillad crand ar gyfer dawns neu ginio ffurfiol; Dad yn falch yn ei siwt ddu a Mam ar ei fraich mewn ffrog osgeiddig, yn wên i gyd wastad.
Roedd Dad rhyw bum mlynedd yn hŷn na mam - ac roedd ganddo gar! Manylyn pwysig iawn yn stori Mam oedd y car. Hwn oedd pinacl soffistigeiddrwydd Dad. Yn hwn, fe aed am bicnics a theithiau ar hyd a lled Cymru, sef un o bleserau mawr bywyd i'r ddau.
Daeth Dad i adnabod Sir Benfro a daeth Mam yn gyfarwydd â Sir Feirionnydd - ac ymhellach hyd yn oed, â Chaer, lle prynwyd y fodrwy ddyweddïo maes o law. Modrwy ac arni ddau flodyn wedi eu plethu, esboniai Mam, gan ddangos y fodrwy ar ei bys i danlinellu'r symboliaeth.
Ac yna ymhen rhai blynyddoedd, ar ôl i Dad aros i Mam wneud MA ac yna weithio fel golygydd cylchgronau'r Urdd, fe briodwyd y ddau yng nghapel Hermon, Abergwaun cyn symud i Landrillo i fyw am gyfnod. Yna Caerdydd. A Chaerfyrddin. A nôl i Abergwaun. Rhannu'r anturiaethau i gyd.
'Roedden nhw'n dîm da'
Dymuniad y cyfwelydd yn y clip oedd y byddai Mam a Dad yn ymddiddori yn eu pynciau gradd ar hyd eu hoes.
Ac fe wnaethon nhw. Arhosodd y Gymraeg, Cymru a'i hanes yn sail diddordebau cytûn a niferus eu bywyd ac fe weithiodd y ddau, yn unigolion a gyda'i gilydd, gyda brwdfrydedd a boddhad dros y pethau hyn. Roedden nhw'n dîm da.
Unwaith, fe ddes ar draws cerdyn Sant Ffolant cynnar wrth Dad i Mam (di-enw, ond hawdd 'nabod ei ysgrifen dwt), yn llawn rhyw gwpledi ysgafn a'u jôcs dyddiau coleg. Tystiolaeth fod Dad, unwaith, wedi fflyrtio! Anhygoel.
A rhywle, yng nghanol eu papurau, mae yna bentwr o'u llythyron caru wedi eu clymu â hen ruban sidan. Mae 'na demtasiwn i gymryd rhyw gipolwg bach sydyn ar y cynnwys, i geisio dod i ddeall pwy oedden nhw, cyn bod yn Mam a Dad. Ond wedyn, rhyw deimlad chwithig fyddai sbecian ar eu preifatrwydd hefyd.
Efallai bydd rhaid bodloni ar gofio stori Mam. A gallwn wrando eto ar y clip.
Hefyd o ddiddordeb: