Dydd Santes Dwynwen: Ymweld â ffynhonnau cariad
- Cyhoeddwyd
Mae sefyll yn ymyl ffynnon yn gallu bod yn brofiad gwefreiddiol oherwydd - yn ôl y gwybodusion - bod ymbelydredd naturiol yn uchel yno a hynny'n rhoi teimlad o iwfforia i rywun.
Does ryfedd felly fod pobl ifanc ers talwm yn heidio at y ffynhonnau ar ddyddiau gwyliau i fwynhau eu hunain, oedd yn cael ei feirniadu gan yr arweinwyr crefyddol.
Mae yna rhai ffynhonnau sy'n nodedig am eu cysylltiad gyda serch a rhamant. Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, Eirlys Gruffydd sy'n edrych ar hen arferion y Cymry o heidio yno i ddarogan eu dyfodol rhamantus.
Mae'n siŵr mai'r mwyaf enwog ohonynt yw Ffynnon Dwynwen yn Llanddwyn, Môn.
Byddai pobl yn dod yno i geisio rhagweld pwy fyddent yn ei briodi. Ers talwm, i gynorthwyo'r cariadon i ddarogan y dyfodol arferai gwraig o Niwbwrch eu cyfarfod wrth y ffynnon.
Roedd pysgod yn nofio yn y ffynnon a rhaid oedd taenu hances ar wyneb y dŵr a gwylio at ba ochr i'r hances y byddai'r pysgod yn nofio.
Aeth merch at y ffynnon i gael gwybod pwy fyddai'n ei briodi. Taenwyd yr hances a daeth y pysgodyn allan i ochr ogleddol y ffynnon. Yna daeth pysgodyn arall allan o'r ochr ddeheuol ac fe gyfarfu'r ddau ar waelod y ffynnon.
Dywedodd y wraig wrth y ferch mai dieithryn o barthau gogleddol Sir Gaernarfon fyddai ei phriod. Yn fuan wedyn daeth tri brawd o'r rhan honno o'r wlad i fyw i'r gymdogaeth lle trigai'r ferch a phriododd ag un ohonynt.
Ysgrifennodd Ceiriog gerdd i'r ffynnon, sy'n sôn am ddawn y dŵr i wella'r sawl oedd yn glaf o gariad. Dyma ddwy bennill ohoni:
Mi eis i Landdwynwen ar ddiwrnod o hâf,
Yn isel fy meddwl, o gariad yn glâf:
Mi yfais o'r ffynnon, ond trois yn ddi-oed
I garu fy nghariad yn well nag erioed.
Gofynais am gyngor, a d'wedai hen ŵr
Y dylwn ymdrochi yn nghanol y dŵr;
Mi neidiais i'r ffynnon a suddais fel maen,
Ond codais mewn cariad dau fwy nag o'r blaen.
Roedd Ffynnon Saethon, Llanfihangel Bachellaeth, Gwynedd, yn ffynnon iacháu a darogan.
Os oedd person eisiau gwybod a oedd y cariad yn ffyddlon byddent yn taflu pin neu bigau drain duon i'r dŵr. Pe byddai'r pin neu'r drain yn arnofio roedd popeth yn dda ond pe suddent roedd amheuaeth a ddeuai unrhyw ddaioni o'r berthynas.
Digwyddai'r un peth yn Ffynnon Arian yn Llanbleddian, ger y Bontfaen, Bro Morgannwg.
Ffordd arall o ddarganfod pwy fyddai'r darpar briod oedd y ddefod a arferid ei dilyn wrth Ffynnon y Wrach ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Maldwyn.
Llyffant Melyn
Rhaid oedd mynd at y ffynnon am hanner nos gan gario llyffant melyn. Wrth adrodd y swyn canlynol byddai naw o binnau yn cael eu gwthio i gorff y creadur anffodus.
Os daw fy nghariad yma'n union,
Caf ei (g)weled yn y ffynnon.
Pan yn rhoi y pin diwaetha
Caf ei (g)weled mi waranta.
Rhagor o ffynhonnau cariad
Yn Ffynnon Caradog ger Hwlffordd, Sir Benfro byddai'n arferiad i ferch fynd at y ffynnon ar fore Llun y Pasg a thaflu tri phin i'r ffynnon.
Wrth edrych i'r dŵr byddai'n gweld wyneb ei darpar briod. Aeth un ferch yno a gweld wyneb hyll, blewog yn edrych arni ac aeth adre wedi dychryn am ei bywyd!
Defnyddid dŵr o Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron i geisio sicrhau fod dymuniad yn cael ei wireddu. Byddai pobl ifanc yn cerdded i lawr at y ffynnon a chario'r dŵr oddi yno yn eu cegau. Yna, heb golli diferyn na llyncu, rhaid oedd dringo i fyny'r llwybr serth o'r ffynnon a cherdded o amgylch Capel Mair.
O gyflawni'r gamp honno byddai'r person yn cael priodi'r un a garai. Roedd defod debyg iawn yn cael ei dilyn ger Ffynnon Lochwyd, Caergybi, Môn.
Rhaid oedd i'r bobl ifanc fynd i lawr at y ffynnon ger y môr a chymryd llond cegiad i ddŵr a llond dwy law o'r graean o waelod y ffynnon a dringo'n ôl i fyny i Gapel Golochwyd.
Llw ffyddlondeb
Credid y byddai pwy bynnag a allai gyrraedd y capel heb golli'r graean na'r dŵr a'u taflu ar yr allor yn siŵr o briodi'r un a garent cyn y lleuad lawn nesaf.
Deuai pobl ifanc at Ffynnon Antwn, islaw'r castell yn Llansteffan, ger Caerfyrddin i offrymu pin gan ddymuno y byddai'r sawl roeddent yn eu caru yn cytuno i'w priodi.
Mae Ffynnon Maen Du ar gyrion Aberhonddu ac roedd yn arferiad i ferched oedd yn glaf o gariad i offrymu pinnau yn y ffynnon gan ddymuno i'r sawl a garent eu caru yn ôl.
Yma hefyd y deuai cariadon i offrymu pinnau a thyngu llw o ffyddlondeb i'w gilydd.
Tybed a fydd yna rywrai yn ymweld â ffynhonnau'r cariadon eleni er mwyn gallu darogan y dyfodol? Byddai'n dda clywed a fu'r antur yn llwyddiant - neu beidio!