Streiciau: Aelodaeth undebau 'yn y gwaed ac yn y dŵr'
- Cyhoeddwyd
"Rwy'n genfigennus mewn ffordd," medd Siân James wrth drafod streiciau heddiw.
I bobl fel hi oedd yn rhan o streic y glowyr ym 1984-85, mae'r anghydfodau diwydiannol presennol wedi cynnig cyfle i gofio'r cyfnod cythryblus hwnnw.
Yn wraig i löwr ar y pryd, roedd Siân James yn rhan o'r rhwydweithiau oedd yn cefnogi teuluoedd drwy'r streic.
Yn ddiweddarach cafodd ei hethol i Dŷ'r Cyffredin, a'i phortreadu yn y ffilm Pride.
Eisteddwn ar y soffa yn ei hystafell fyw yng Nghastell-nedd, ble mae arlunwaith ar y wal yn dangos golygfa o'r llinell biced.
"Fe wnaeth e newid fy mywyd i," medd Siân, sydd bellach yn 63 oed.
"Fyddwn i ddim wedi cyrraedd San Steffan, a fyddwn i ddim pwy ydw i heddi, oni bai am y streic."
Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn cymharu streic y glowyr â'r streiciau presennol, ble mae aelodau sawl undeb gwahanol wedi bod yn gweithredu'n ddiwydiannol.
"Roedden ni'n sefyll ar ein pennau ein hunain fel undeb.
"Rwy'n genfigennus mewn ffordd achos pe bawn ni yn ystod streic y glowyr wedi cael sawl diwydiant yn sefyll gyda'i gilydd, yn rhannu'r cyfrifoldeb, rwy'n credu gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn."
Bellach yn 77, roedd Tyrone O'Sullivan yn ysgrifennydd cangen gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) yn yr 80au.
"Roedd yn rhaid i ni frwydro," dywed wrtha i.
"Mae mynd ar streic yn rhoi teimlad arbennig iawn. Ennill neu golli - ry'ch chi wedi brwydro."
Ond dros y blynyddoedd a ddilynodd y streic, mae Tyrone o'r farn bod yr undebau wedi cymryd cam yn ôl.
"Roedd y deng mlynedd nesa'n pathetig.
"Aeth yr undebau i gysgu, fel pe baen nhw'n credu na allai unrhyw un ennill os nad oedd y glowyr wedi llwyddo.
"A dyna un o'r pethau roeddwn i'n difaru am 30 mlynedd wedyn - fe wisgon nhw eu teis a'u siwts a gwneud dim.
"Ond maen nhw wedi troi o gwmpas nawr yn do? Maen nhw wedi taflu eu teis, ac maen nhw'n mynd allan ar y linell biced."
Roedd Nicholas Jones yn ohebydd diwydiannol i'r BBC drwy'r 70au a'r 80au.
Yn ôl y gohebydd, sy'n wreiddiol o'r Fenni, y prif wahaniaeth rhwng streic y glowyr a'r streiciau heddiw yw ei bod hi'n "anodd iawn" i'r llywodraeth heddiw droi arweinwyr yr undebau'n elynion cyhoeddus.
Yn ystod streic y glowyr "roedd llawer o feirniadaeth o'r trais ar y llinellau piced, ond heddiw does yna ddim".
"Mae'r rhain yn brotestiadau heddychlon y tu allan i orsafoedd rheilffordd ac ysbytai - aelodau undeb sy'n chwifio baneri."
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU, dolen allanol, 23.1% o weithwyr oedd yn perthyn i undeb llafur yn 2021 sef y ganran isaf ar gofnod.
Ond mae'r ystadegau'n dangos hefyd bod y canran o weithwyr yng Nghymru oedd yn perthyn i undeb wedi cynyddu yn ystod yr un flwyddyn i 35.6%, ac mae gan Gymru gyfradd aelodaeth undeb uwch nag unrhyw un o genhedloedd eraill y DU.
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru wedi bod yn dadansoddi'r ffigurau, dolen allanol, a dywedodd yr Athro Alex Bryson bod yna dystiolaeth sy'n dangos bod aelodaeth o undeb "yn y gwaed ac yn y dŵr" mewn rhannau o Gymru.
"Rydyn ni wedi gwneud gwaith sy'n dangos bod aelodaeth ag undeb yn cael ei basio o un genhedlaeth i'r nesa o fewn i deuluoedd.
"Mae yna dystiolaeth hefyd ei fod yn y dŵr achos mae lleoliad daearyddol rhywun yng Nghymru'n gallu cael effaith mawr ar y posibilrwydd eu bod nhw hefyd yn aelod o undeb.
"Mae hynny'n rhannol yn gysylltiedig â'r diwydiannau oedd yn arfer bod ar y tir. Yn y bôn mae bod yn rhan o undeb wedi ei ysgythru yn y tirlun."
Bydd Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 ddydd Sul 29 Ionawr ac ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023