Staff gwasanaeth ambiwlans ar streic unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr ambiwlans ar streic yng Nghwmbwrla
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o undeb Unite tu allan i orsaf ambiwlans Cwmbwrla, Abertawe fore Llun

Bydd staff y gwasanaeth ambiwlans o dri undeb llafur - GMB, Unsain ac Unite - yn streicio ddydd Llun wrth i'r anghydfod cyflogau barhau.

Fel gyda gweithredu diwydiannol sydd wedi digwydd eisoes, bydd galwadau brys 999 yn cael eu hateb ond mae'n bosib na fydd rhai llai argyfyngus.

Mae disgwyl i'r diwrnod mwyaf o weithredu diwydiannol yn y gwasanaeth iechyd ddigwydd ar 6 Chwefror, pan fydd nyrsys hefyd yn mynd ar streic.

Yn y cyfamser, mae undeb CSP - sy'n cynrychioli ffisiotherapyddion - wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau'n mynd ar streic ar 7 Chwefror.

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd wedi dweud y bydd bydwragedd yng Nghymru yn mynd ar streic ar 7 Chwefror, a hynny am wyth awr o 08:00 i 16:00.

Cafodd cynnig Llywodraeth Cymru o daliad untro i staff ei wrthod gan undebau, tra bod Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud nad oes modd fforddio'r codiad cyflog y mae gweithwyr yn ei ofyn amdano.

Pedwar diwrnod arall o streicio

Ar hyn o bryd mae cyflogau staff iechyd yn cael ei benderfynu gan gyrff adolygu cyflog annibynnol, gyda staff y GIG yng Nghymru eisoes wedi cael codiad cyfartalog o 4.75%.

Ond mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd wedi dweud y bydd streiciau yng Nghymru a Lloegr yn parhau os nad ydyn nhw'n llwyddo i ddod i gytundeb ar godiadau cyflog eleni sydd yn uwch na chwyddiant.

Yn Yr Alban, mae cynnig cyfartalog o 7.5% mewn codiad wedi cael ei dderbyn gan rai undebau.

Mae'r anghydfod yn golygu, fodd bynnag, fod gweithwyr ambiwlans o undeb Unite yng Nghymru ar streic unwaith eto ddydd Llun.

Daeth hynny wrth i ffigyrau gael eu cyhoeddi ddydd Iau yn dangos bod amseroedd ymateb ambiwlans yng Nghymru ym mis Rhagfyr wedi cyrraedd eu lefel gwaethaf erioed.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i rywbeth newid," dywedodd Ceri Jones sy'n aelod o undeb Unite

Ar linell biced tu allan i orsaf ambiwlans Cwmbwrla ger Abertawe fore Llun, dywedodd Ceri Jones sy'n weithiwr ambiwlans ac yn aelod o undeb Unite fod yn "rhaid i rywbeth newid".

"Mae amodau gweithio wedi gwaethygu dros y blynydde' ond dyw tâl ddim wedi newid," dywedodd.

"Mae pethe' wedi gwaethygu o ran amseroedd ni'n aros tu allan i'r ysbyty, yn methu mynd i'r cleifion."

Dywedodd fod y diwrnod arferol fel gweithiwr ambiwlans yn golygu aros "12 awr tu allan i ysbyty".

"Ma hwnna wedi bod yn mynd 'mlaen ers misoedd nawr.

"Mae'n anodd. 'Dyn ni ddim eisiau mynd ar streic ond mae'n rhaid i rywbeth newid o leia'."

Mae streiciau pellach wedi eu cynllunio gan aelodau Unite a GMB ar gyfer 6 a 20 Chwefror yn ogystal â 6 a 20 Mawrth.

Ar 7 Chwefror, bydd ffisiotherapyddion o undeb CSP yn streicio dros gyflogau.

"Does neb eisiau streicio ond mae staff ffisiotherapi wedi cael eu gadael heb ddewis," dywedodd eu huwch swyddog negodi, Adam Morgan.

"Mae cleifion yn cael trafferth yn cael mynediad i'r gofal sydd ei angen arnyn nhw oherwydd bod degawd o danfuddsoddi yn y GIG wedi arwain at brinder gweithlu cronig.

"Mae'n hanfodol bod yna gynnig cyflog teilwng, nid yn unig i gadw staff presennol ffisiotherapi ond i ddenu pobl newydd i'r proffesiwn."

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr ambiwlans ar y linell biced yn ystod eu streic ddiweddaraf ddydd Iau

Yn y cyfamser mae cleifion dal yn cael eu cynghori i ffonio 999 mewn argyfwng, a bydd ambiwlansys yn parhau i gael eu hanfon i ddigwyddiadau all beri risg i fywyd.

Ond mae'n bosib na fydd galwadau difrifol sydd ddim yn peri risg i fywyd yn cael eu hateb yn syth, a bydd galwadau llai brys - gan gynnwys menywod beichiog - ddim yn cael eu blaenoriaethu.

Mae'r rheiny sydd yn dioddef anafiadau o gwympo, neu rai eraill sydd ddim yn peryglu eu bywyd, yn anhebygol o gael ymateb 999 ac maen nhw wedi cael cyngor i ffonio 111.

Bydd rhai gwasanaethau eraill hefyd wedi eu heffeithio, gan gynnwys llawdriniaethau a nyrsys neu weithwyr iechyd yn y gymuned, ond y cyngor i'r rheiny sydd heb weld apwyntiadau'n cael eu gohirio yw i wneud yn siŵr eich bod yn mynychu.

Pynciau cysylltiedig