Chwe Gwlad: Cymru'n newid pum blaenwr i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Christ TshiunzaFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Christ Tshiunza yn dechrau yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ar ôl ennill ei gapiau cyntaf yn yr hydref

Mae Warren Gatland wedi gwneud pum newid i'w dîm i herio'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, gyda phob un yn dod ymhlith y blaenwyr.

Collodd Cymru o 34-10 gartref yn erbyn Iwerddon yn eu gornest agoriadol - y cyntaf ers i Gatland ddychwelyd fel prif hyfforddwr.

Mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Taulupe Faletau i gyd wedi cael eu gadael allan o'r tîm, a Faletau yw'r unig un o'r rheiny sydd ar y fainc.

Bydd Wyn Jones a Dillon Lewis yn dechrau fel y ddau brop, tra bod Dafydd Jenkins yn dechrau yn yr ail reng am y tro cyntaf.

Yn y rheng ôl mae Jac Morgan yn symud i safle'r wythwr i wneud lle ar gyfer y blaenasgellwyr Tommy Reffell a Christ Tshiunza, sy'n dechrau am y tro cyntaf yn y Chwe Gwlad.

'Edrych i'r dyfodol'

Does dim newid felly ymhlith yr olwyr ar gyfer yr ymweliad â Murrayfield i herio'r Alban, a gurodd Lloegr y penwythnos diwethaf o 29-23.

Ar y fainc, gallai ail reng y Gweilch Rhys Davies ennill ei gap cyntaf, tra bod y prop Leon Brown a'r maswr Rhys Patchell hefyd ymhlith yr eilyddion.

Dywedodd Gatland ei fod eisiau gwneud "rhai newidiadau" er mwyn "edrych rywfaint i'r dyfodol", gyda Chwpan y Byd ar y gorwel yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyn-gapten Alun Wyn Jones ei ddatgan yn ffit er iddo ddioddef anaf i'w ben yn erbyn Yr Alban - ond mae wedi ei adael allan beth bynnag

"'Dyn ni'n edrych ar opsiynau fel wythwr os yw Faletau yn cael anaf, pwy sy'n mynd i chwarae fanno, felly mae Jac [Morgan] yn cael cyfle," meddai.

Ychwanegodd fod yn "rhaid i Gymru ddechrau'n well" nag y gwnaethon nhw yn erbyn Iwerddon, pan oedden nhw 27-3 i lawr ar yr egwyl.

Cymru sydd ar waelod tabl y Chwe Gwlad ar hyn o bryd ar ôl colli i'r Gwyddelod, gyda'r Eidal hefyd wedi casglu pwynt bonws wrth gael eu trechu o 29-24 gan Ffrainc.

Cymru: L Williams; Adams, North, Hawkins, Dyer; Biggar, T Williams; W Jones, Owens (capten), Lewis, Jenkins, Beard, Tshiunza, Reffell, Morgan.

Eilyddion: Baldwin, Carre, Brown, R Davies, Faletau, Webb, Patchell, Cuthbert.

Pynciau cysylltiedig