Cyn-chwaraewr Cymru, Tony 'Charlie' Faulkner, wedi marw
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Clwb Rygbi Pont-y-pŵl ddisgrifio Tony 'Charlie' Faulkner fel "un o wir gewri" y clwb
Mae cyn-brop Cymru a Phont-y-pŵl o'r 70au, Tony Faulkner, wedi marw yn 81 oed.
Cafodd ei eni yng Nghasnewydd, ac roedd yn cael ei adnabod gan y mwyafrif fel 'Charlie' Faulkner.
Enillodd 19 o gapiau dros Gymru - pob un ohonynt gyda'i gyd-chwaraewyr yn rheng flaen Pont-y-pŵl, Graham Price a Bobby Windsor.
Cafodd ei ddewis hefyd i fynd ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1977.
Yn rho teyrnged iddo, fe wnaeth Clwb Rygbi Pont-y-pŵl ei ddisgrifio fel "un o wir fawrion" y clwb.