Prynu tocynnau cyngerdd yn 'gur pen' i bobl ag anabledd
- Cyhoeddwyd

Mae Aaron Plemming wedi cael y cyfle i gwrdd â chomedïwyr blaenllaw fel Rob Beckett
Mae rhwystredigaeth ynglŷn â'r "diffyg cysondeb" gyda systemau archebu tocynnau i ddigwyddiadau i bobl ag anableddau, yn ôl elusen.
Mae Aaron Pleming o Gaernarfon wrth ei fodd yn mynd i gyngherddau a sioeau. Cerddoriaeth a chomedi yw ei brif ddiddordebau.
"Dwi wedi bod i weld Strictly Come Dancing eleni, a dwi 'di bod i gig Peter Kay ddechrau mis Ionawr," meddai.
Ond fel person sydd ag anabledd, mae Aaron yn dweud fod prynu tocynnau yn "gur pen" iddo yn aml.

Aaron gydag un o sêr Strictly Come Dancing, Neil Jones
Fel un sy'n defnyddio cadair olwyn ac yn byw gyda pharlys yr ymennydd, mae'n gorfod ffonio o flaen llaw er mwyn sicrhau mynediad i'r lleoliad.
"Fedra i ddim jyst meddwl 'o reit, dwi eisiau mynd i weld hwn'," meddai.
Mae'r sefyllfa bresennol yn golygu aros mewn ciw ar y ffôn er mwyn siarad ag aelod o staff yn y swyddfa docynnau i gadarnhau trefniadau.
Eisiau 'bwcio ar-lein fel pawb arall'
Yn ôl Aaron, mae'r staff ar y ffôn fel arfer yn garedig iawn, ond mae'r broses yn rhy gymhleth o ystyried fod pobl eraill yn gallu archebu tocynnau yn ddigidol.
"'Dw i'n gorfod ffonio'r lleoliad," meddai. "Mae hynna'n anodd achos 'dw i ar hold am hir. Dydy o ddim yn hawdd."
Byddai moderneiddio'r broses yn gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer, meddai Aaron.
"'Swn i wrth fy modd tasa 'na ffordd i berson anabl, fatha fi, fedru bwcio tocynnau ar-lein fel pawb arall."

Mae Gail Devine yn mynd i ddigwyddiadau gyda'i ffrind Mel fel rhan o gynllun Gig Buddies
Mae Gail Devine o Ben-y-bont ar Ogwr yn rhan o Ffrindiau Gigiau Cymru, neu Gig Buddies - cynllun sy'n uno dau berson gyda diddordebau tebyg.
Drwy'r system, mae Gail yn mynd i gyngherddau gyda Mel, sy'n byw gydag anghenion ychwanegol.
"Mae e weithiau yn anodd cael tocynnau achos 'dan ni'n edrych am docynnau lle dwi'n gallu mynd gyda hi i gynorthwyo," meddai Gail.
Dywedodd fod angen symleiddio'r broses er mwyn gwneud y system yn fwy hygyrch.
"Fysai fo'n lyfli pe bai 'na un broses i gael bwcio ym mhobman," meddai.
Mae Mel a Gail yn manteisio ar Hynt - cynllun yng Nghymru sy'n sicrhau fod cynnig cyson ar gael i bobl gydag anableddau mewn theatrau a chanolfannau celfyddydol, yn ogystal â'u gofalwyr a'u cynorthwywyr.

"Mae llawer iawn o'n haelodau yn dweud eu bod wedi colli mas ar gig neu gyngerdd arall," meddai Alexandra Osborne o Anabledd Cymru
Yn ôl elusen Anabledd Cymru, mae'r sefyllfa docynnau yn "broblem fawr" sydd wedi bodoli ers blynyddoedd.
"Mae llawer iawn o'n haelodau - pobl anabl o Gymru gyfan - yn dweud eu bod wedi colli mas ar gig neu gyngerdd arall," meddai Alexandra Osborne o'r elusen.
"Prif fwrn y sefyllfa ydy'r diffyg cysondeb. Nid jyst yn y lleoliadau amrywiol ond weithiau yn yr un lleoliad, yn dibynnu ar ba artist sy'n perfformio."
Tra bod gwasanaethau ar y ffôn yn hollbwysig i bobl gyda nam golwg, mae Alexandra yn awyddus i weld system ddigidol yn cael ei datblygu ar gyfer pobl gydag anableddau.
Dywedodd fod cynlluniau fel Hynt yn help, ond y byddai'n well gallu cael popeth mewn un lle, yn hytrach na chael gwahanol gynlluniau ar gyfer gwahanol leoliadau.
"Pe bai 'na un pas y gallwn ni ei ddefnyddio ym mhob lleoliad, byddai'n helpu gydag ymwybyddiaeth, a byddai pobl yn dechrau ei ddefnyddio yn fwy aml."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i wefan Siarad Anabledd BBC Cymru.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023