'Amhosib cael bywyd cymdeithasol mewn cadair olwyn'

  • Cyhoeddwyd
Beth FrazerFfynhonnell y llun, Beth Frazer

"Mae o bron yn amhosib bod mewn cadair olwyn a chael bywyd cymdeithasol."

Dyma farn Beth Frazer o Ynys Môn, sydd wedi profi pa mor anhygyrch (inaccessible) mae clybiau nos a thafarndai yn gallu bod i'r rheiny sydd ag anableddau.

Dywedodd ei bod yn mynd allan i gymdeithasu llawer llai aml ers iddi ddechrau defnyddio cadair olwyn, ac mai'r prif reswm dros hynny ydy bod lleoliadau "ddim yn hygyrch o gwbl".

Mae cipolwg ar wefannau clybiau nos dwy ddinas fwyaf Cymru - Caerdydd ac Abertawe - yn dangos y diffyg gwybodaeth sydd yna i unrhyw un sy'n ceisio darganfod a oes cymorth i bobl sydd ddim yn gallu cerdded.

O sampl ar hap, dim ond un clwb nos oedd ag unrhyw ddisgrifiad ar eu gwefan o'i hygyrchedd - gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid anabl.

Darganfuwyd hefyd fod rhai clybiau sydd yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ddim yn hysbysebu hynny.

Er enghraifft, mae gan Pryzm yng Nghaerdydd lifft i bob lefel, ond does dim sôn am hynny ar wefan y clwb nos.

Ffynhonnell y llun, David Page
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Pryzm yng Nghaerdydd lifft i bob lefel, ond does dim sôn am hynny ar wefan y clwb

Un sydd wedi cael profiad o ba mor anhygyrch yw clybiau nos ydy Beth Frazer o'r Fali ar Ynys Môn.

Mae gan Beth gyflwr ME - myalgic encephalomyelitis - a thiwmor pineal ar ei hymennydd, ac mae hi bellach yn defnyddio cadair olwyn.

"Dwi wedi bod allan i glybiau nos ychydig o weithiau, ond dwi heb fod allan gymaint ag o'n i ers bod mewn cadair olwyn.

"A'r rheswm mwyaf am hynny yw bod o ddim yn hygyrch o gwbl.

"Mae clybiau nos o hyd unai fyny grisiau neu lawr grisiau, a fel arfer does gan y clybiau nos dim cyllid i brynu lifft."

'Mynd lawr y grisiau ar fy mhen ôl'

Mae'r sefyllfa yn cael effaith fawr iawn ar ei bywyd cymdeithasol, meddai.

"Mae o bron yn amhosib bod mewn cadair olwyn a chael bywyd cymdeithasol - mae lot o dafarndai efo grisiau yn mynd fyny iddyn nhw.

"A dweud y gwir, Caerdydd ydy un o'r llefydd mwyaf hygyrch hyd y gwela' i.

"Yn Lerpwl, oedd bob dim dan y ddaear, ac oedd rhaid i fi fynd lawr y grisiau ar fy mhen ôl."

Ffynhonnell y llun, PYMCA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r economi nos werth dros £112 bn i'r DU yn ôl yr NTIA

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau wneud "addasiadau rhesymol" i alluogi defnyddwyr i gael mynediad.

Ond nid oes unrhyw orfodaeth i bobman fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, yn enwedig yn achos adeiladau hŷn lle byddai addasiadau'n anodd neu'n gostus iawn.

Mae 'na alw hefyd ar ddarparwyr gwasanaethau i wneud pobl yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael - trwy roi gwybodaeth i ddefnyddwyr ar eu gwefan, er enghraifft.

'Cydnabod bod angen gwneud mwy'

Dywedodd Rekom UK, sy'n berchen ar glwb nos Pryzm, ei fod wedi gweithio'n galed i wneud ei leoliadau mor gynhwysol â phosibl a bod lifftiau'n cael eu gwasanaethu'n rheolaidd, ond eu bod yn torri i lawr weithiau.

"Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i dynnu sylw at y cyfleusterau sydd gennym ni, sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd tawel i'r rhai sy'n profi gorlwytho synhwyraidd," meddai llefarydd.

"Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gweithio arno fel rhan o'n strategaeth gwesteion yn gyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

"Heb os, mae gan y diwydiant clybiau nos lawer o waith i'w wneud o hyd," meddai Michael Kill

Mae Michael Kill, prif weithredwr y Night Time Industries Association (NTIA), yn cydnabod fod angen mynd i'r afael â'r broblem o fewn y sector.

"Heb os, mae gan y diwydiant clybiau nos lawer o waith i'w wneud o hyd. Mae rhai ohonynt wedi'u cyfyngu gan natur eu hadeiladau yng nghanol dinasoedd, adeiladau rhestredig ac ati," meddai.

"Rwy'n cydnabod trwy ein harchwiliadau o wefannau bod llawer o waith i'w wneud."

'Cydnabod y pwysigrwydd'

Ychwanegodd fod yr NTIA yn gweithio ar becyn hyfforddi i aelodau sy'n edrych ar hygyrchedd, yn enwedig "cyfathrebu hygyrchedd".

"Mae yna rai pobl gefnogol iawn sydd eisiau ymgysylltu a sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael y cyfle i ddod allan a mwynhau noson allan," meddai.

Mae'r corff yn gweithio gyda Attitude is Everything - corff sydd wedi ymgyrchu o fewn y sector cerddoriaeth a digwyddiadau byw ers 2000 i wella mynediad i gwsmeriaid a cherddorion ag anableddau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi sefydlu tasglu hawliau anabledd i edrych ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl, a bod ganddynt weithgor yn edrych ar fynediad i wasanaethau.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc anabl gael mynediad i ystod o leoliadau cymdeithasol."