Dwy felin yn Sir Gâr yn cael eu hachub i warchod traddodiad
- Cyhoeddwyd
Mae dwy felin yn Sir Gaerfyrddin wrthi'n cael eu trawsnewid, gyda'r gobaith o warchod sgiliau a thraddodiadau'r diwydiant gwlân.
Mae Melin Elfed yng Nghynwyl Elfed newydd gael ei phrynu gan Daniel Harris, gŵr o Lundain sydd â chysylltiadau clòs gyda'r ardal wedi iddo fod yn gweithio gydag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre ers 2019.
Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn gobeithio prynu Melin Teifi yn Felindre a'i defnyddio i arddangos peiriannau a sgiliau'r diwydiant.
"Fi'n credu ma'r dyfodol yw bod pawb yn cydweithio gyda'i gilydd," dywedodd Ann Whittall, rheolwr yr amgueddfa.
"O ran ni yn yr amgueddfa ni'n meddwl bod ni'n mynd mewn i amser cyffrous iawn."
Rhaid cadw'r adeilad yn felin
Fe wnaeth Daniel Harris, a sefydlodd y London Cloth Company, ddysgu ei hun sut i drwsio a defnyddio'r peiriannau ac mae e nawr yn rhannu ei wybodaeth gyda staff yr amgueddfa.
Wrth gyfeirio at achub y ffrâm wehyddu gyntaf (loom) dywedodd: "Doeddwn i erioed wedi gweld un o'r blaen. Wnes i ei rhoi yn fy ngweithdy a meddwl 'reit beth dwi'n gwneud nawr?'
"Pob tro dwi'n cael peiriannau, yr un yw'r stori. Mae'r bobl sydd wedi prynu'r adeilad oedd yn gartref iddyn nhw eisiau ei droi mewn i dai - 'na beth sy'n digwydd ym mhob man dwi'n mynd.
"Ond beth sydd mor anhygoel am y felin dwi'n prynu nawr, doedd y perchennog ddim eisiau ei throi yn dŷ. Roedden nhw ond am ei dangos i bobl tecstilau.
"Roedd e'n bendant bod yn rhaid i'r adeilad aros fel melin neu fel arall byddai dau dŷ yna erbyn nawr."
"Mae pawb yn dweud 'o mae'n wych dy fod ti'n ei gadw fel melin'," ond ychwanegodd er bod eraill yn credu ei fod yn "gwbl wallgof" yn ymgymryd â'r prosiect.
Mae llawer o waith angen ei wneud ar y felin, gyda'r rhan hynaf o'r adeilad yn dyddio i tua'r 1840au, a does fawr o newid wedi bod yno ers y 1960au.
Er mwyn gwneud gwaith hanfodol mae Mr Harris wedi bod yn codi arian ac mae wedi cael cymorth ariannol gan y Gymdeithas Melinau Cymraeg a'r Gymdeithas Tecstilau.
Agor y felin i'r cyhoedd
Ei obaith yw agor y felin i'r cyhoedd ac mae wedi bod yn trafod cael myfyrwyr yno i ymweld gyda phrifysgolion Abertawe a'r Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
"Beth yw'r pwynt cael yr holl stwff yma os na all pobl ddod i'w weld?" meddai Mr Harris.
"Ma' gyda ni wyddiau o'r 1870au a'r 1880au. Chi'n gwybod does dim llawer o'r stwff yma o amgylch ac yn sicr does dim llawer o'r math yma o offer yn gweithio.
"Ychydig iawn o bobl sydd bellach ag unrhyw wybodaeth am y fframiau gwau."
Ond mae Mr Harris yn ansicr am ddyfodol y diwydiant.
"Mae pobl yn dweud wrtha i 'o mae angen hyfforddi'r holl bobl 'ma'. Ond eu hyfforddi i weithio ble? Ble maen nhw'n mynd i weithio?"
Y dyfodol 'mewn dwylo da'
Gerllaw mae gwaith hefyd ar fin dechrau ym Melin Teifi ar ôl iddi gael ei phrynu gan Amgueddfa Wlân Cymru.
Mae'r felin yma wedi'i lleoli ar yr un safle â'r amgueddfa ac mae'r ddau sefydliad wedi cydweithio'n agos dros y blynyddoedd er mwyn rhannu a dysgu sgiliau.
Cafodd Melin Teifi ei sefydlu ym 1982 gan Raymond a Diane Jones ar ôl iddyn nhw dreulio cyfnod yn gweithio ym Melin Cambrian cyn iddi gau.
Bu ychydig o bryder am ddyfodol y felin wrth i'r pâr ymddeol, ond dywed Mr Jones ei fod yn falch bod yr adeilad "bellach mewn dwylo da a fydd yn cadw'r traddodiad i fynd".
Fel ym Melin Elfed mae yna lawer o waith sydd angen ei wneud ym Melin Teifi.
Ond mae rheolwr yr amgueddfa, Ann Whittall, yn bositif am ddyfodol y diwydiant.
"Mae rhaid 'neud yn siŵr bod y sgiliau gyda ni 'ma yng Nghymru i'r dyfodol, bo' ni'n gallu cefnogi dylunwyr Cymru a 'neud siŵr bod ni'n cadw'r grefft draddodiadol i fynd," meddai.
"Mae'n bwysig iawn bo' ni'n dysgu o'r gorffennol a fi'n credu 'na rôl bwysig yr amgueddfa, a hefyd mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth gwlân gyda'r cyhoedd yng Nghymru ac ymhellach.
"Fi'n credu ma'r dyfodol yw fod pawb yn cydweithio gyda'i gilydd."
Mae Daniel Harris yn canmol gwaith yr Amgueddfa Wlân a'r penderfyniad i brynu'r felin gyfagos.
"Os na fyddai'r amgueddfa wedi'i brynu e byddai'r casgliad yna wedi'i dorri i fyny i wahanol ddarnau," meddai.
"Byddai rhan ohono wedi cael ei sgrapio, a byddai'r gweddill wedi cael ei werthu dros y lle i gyd.
"Dwi di bod 'na. Ar ddiwedd bywyd melin mae popeth yn cael ei sgrapio. Mae unrhyw beth sydd methu cael ei werthu yn cael ei sgrapio.
"Dwi wedi gwylio hyn yn digwydd. Ma' pobl yn dod gyda morthwylion a thorri'r cyfan yn ddarnau achos mae'n haws na'u cario allan o'r drws."
Angen mwy o felinau
Yn ôl prosiect Gwnaed â Gwlân, mae yna alw cynyddol am wlân Cymreig.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Elin Parry, nad oes digon o felinau yng Nghymru i gwrdd â'r galw.
"Ma' na lot o ddylunwyr yn dod aton ni. Ma'n bwysig dangos be' ma' gwlân yn gallu 'neud ac mae'n bwysig dysgu amdano fo," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021