Caerau: Arestio bachgen, 15, ar ôl i fachgen arall, 16, gael ei drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen arall gael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i ardal Caerau yn y brifddinas am 19:10 nos Fercher.
Dywed yr heddlu fod bachgen 16 oed wedi'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y digwyddiad.
Nid oes ganddo anafiadau sy'n peryglu ei fywyd ar hyn o bryd, meddai'r llu.
Ychwanegon nhw fod bachgen 15 wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a bod ymholiadau'n parhau.