Diwygio'r Senedd: Rhaid i ymgeisydd fyw yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Roedd arweinydd UKIP, Neil Hamilton, yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ond yn byw yn Wiltshire

Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn y dyfodol fyw yng Nghymru o dan gynlluniau'r llywodraeth.

Mae gweinidogion hefyd yn bwriadu atal Aelodau o'r Senedd rhag gadael plaid wleidyddol ym Mae Caerdydd i ymuno ag un arall.

Cynigir y newidiadau fel rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau i'r Senedd, a fydd yn gweld nifer yr Aelodau o'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n rhoi'r newyddion diweddaraf am eu cynlluniau erbyn y Pasg.

Dywedodd Plaid Cymru, sy'n gweithio gyda'r llywodraeth ar ddiwygio'r Senedd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu, y bydd y newidiadau "yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith gyfansoddiadol Cymru".

'Dim mandad'

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y dylai Llywodraeth Cymru "ganolbwyntio ar drwsio ein GIG yng Nghymru, ein system addysg a'n heconomi".

"Does gan Lafur ddim mandad etholiadol ar gyfer eu cynigion ac maen nhw'n hapus i ASau yn San Steffan groesi'r llawr i blaid arall pan fo'n gyfleus iddyn nhw," meddai.

"Mater i'r etholwyr yw penderfynu sut y cânt eu cynrychioli, ac ni ddylai democratiaeth Gymreig gael ei thanseilio gan Lafur a Phlaid."

Disgrifiad o’r llun,

Y prif newid yn y diwygiadau fyddai cynyddu nifer yr ASau o 60 i 96

Byddai'r cynlluniau i newid y Senedd yn gweld 96 Aelod yn cael eu rhannu ar draws 16 o etholaethau, gyda phob un yn ethol chwe chynrychiolydd.

Mae cwotâu rhywedd hefyd yn cael eu cynnig er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth o fenywod, er bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch pwerau cyfreithiol y Senedd i gyflwyno'r newid.

Y nod yw cyflwyno'r newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Mae gweinidogion Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio ar y manylion cyn cyhoeddi deddf ddiwygio arfaethedig i'r Senedd erbyn hydref 2023.

Beth yw'r awgrymiadau newydd?

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod newidiadau pellach y cytunwyd arnynt yn cynnwys:

  • Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru;

  • Gwaharddiad ar newid plaid, fel na fydd Aelodau o'r Senedd sy'n cael eu hethol i gynrychioli plaid yn gallu ymddiswyddo ac ymuno â phlaid arall yn y Senedd - bydd yn rhaid iddynt eistedd fel aelodau annibynnol;

  • Bydd yn rhaid i ymgeiswyr annibynnol ddatgelu eu haelodaeth o unrhyw bleidiau gwleidyddol yn y flwyddyn cyn etholiad.

Yn 2009, Mohammad Asghar oedd y gwleidydd cyntaf ym Mae Caerdydd i groesi'r llawr wrth iddo symud o Blaid Cymru i'r Ceidwadwyr, dolen allanol.

Gadawodd chwech o'r saith gwleidydd a etholwyd i gynrychioli UKIP yn etholiad Senedd 2016 i ymuno â phleidiau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mohammed Asghar ei ethol i'r Senedd yn 2007 fel aelod Plaid Cymru, cyn symud i'r Ceidwadwyr ddwy flynedd yn ddiweddarach

Byddai'r rheol breswyl arfaethedig yn atal y sefyllfa yn y Senedd ddiwethaf lle bu arweinydd UKIP, Neil Hamilton, yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ond yn byw yn Wiltshire.

Mewn cyfarfod o gorff rheoli Llafur Cymru cyn y Nadolig, dywedwyd bod "cefnogaeth gyffredinol" ymhlith cynrychiolwyr y pleidiau.

Ond dywedir bod Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru wedi cwestiynu a allai newid rheol preswylio Cymru "atal ymgeiswyr talentog sy'n byw rhywle arall yn y DU a fyddai'n gyndyn o fentro symud i Gymru pe na bai modd iddynt fod yn sicr o gael eu hethol".

Dywedir bod y prif weinidog wedi "cydnabod bod y pwynt hwn wedi'i ystyried ond nad oedd yn bryder digonol i gyfiawnhau rhoi'r gorau i'r cynnig".

'Democratiaeth gryfach'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i weithio i symud yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd yn eu blaenau, a byddwn yn rhoi diweddariad pellach erbyn y Pasg."

Dywedodd Plaid Cymru fod creu "democratiaeth gryfach, fwy effeithiol, a mwy cynrychioliadol i wasanaethu pobl Cymru'n well wrth galon" ei chytundeb yn y Senedd gyda llywodraeth Lafur Cymru.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid: "Bron i 25 mlynedd ers sefydlu'r Senedd, bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith gyfansoddiadol Cymru.

"Mae arweinydd Plaid Cymru yn gweithio'n agos gyda'r prif weinidog ar ddatblygiad y ddeddfwriaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd maes o law."