Senedd fwy: 'Angen refferendwm cyn ehangu' medd Hart

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynyddu'r aelodaeth o 60 i 96 yn dod â'r Senedd yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer yr aelodau

Dylai Llywodraeth Cymru "geisio cymeradwyaeth ei phleidleiswyr" a chynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi cynnig ehangu maint y Senedd o 60 aelod i 96.

Gallai'r cynlluniau, y cytunwyd arnynt fel rhan o gytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, hefyd weld system bleidleisio fwy cyfrannol yn cael ei mabwysiadu.

Yn San Steffan, mynegodd ASau Ceidwadol bryderon am gostau'r diwygiadau gan ddweud y gallai'r arian gael ei wario'n well ar wasanaethau cyhoeddus.

Mewn cwestiynau i Swyddfa Cymru yn San Steffan, dywedodd AS Ceidwadol Devizes, Danny Kruger: "Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ei bod am gynyddu maint y Senedd, ond mae pryderon gwirioneddol y bydd hyn yn arwain at ddiffyg cymesuredd o ran cynrychiolaeth.

"A yw'n cytuno y byddai'r arian hwn yn cael ei wario'n llawer gwell ar wasanaethau cyhoeddus?"

Atebodd Simon Hart: "Yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud, os oedd y llywodraeth hon yn gwneud awgrymiadau o'r math hwn yn ymwneud â'r cyfansoddiad a'r mesurau pleidleisio, rwy'n credu'n gryf y byddai pob un o'r aelodau gyferbyn yn dweud y dylai hyn fod yn amodol ar refferendwm cyhoeddus o leiaf.

"Felly, byddwn yn awgrymu mai'r cam gweithredu priodol i Lywodraeth Cymru yw ceisio cymeradwyaeth ei phleidleiswyr cyn bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r mesurau costus hyn."

Mae'r Ceidwadwyr yn Senedd Cymru hefyd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau fel rhai gwastraffus, ond dywed cefnogwyr fod angen mwy o Aelodau o'r Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Cytunodd Llafur a Phlaid Cymru ar gynllun ar gyfer Senedd 96 sedd - 36 yn fwy na nawr, gyda chwotâu rhyw gorfodol.

Ond mae 'na bryderon na fydd y system yn adlewyrchu'n llawn sut mae pobl yn pleidleisio.

O dan y cynlluniau byddai'r cyhoedd yn pleidleisio dros bleidiau, yn hytrach nag ymgeiswyr, gyda 96 o Aelodau o'r Senedd wedi'u gwasgaru dros 16 etholaeth.

Byddai'n defnyddio'r hyn a elwir yn "system rhestr gaeedig" - tebyg i sut roedd etholiadau Senedd Ewrop yn gweithio ym Mhrydain cyn Brexit - lle mae pleidleiswyr yn cefnogi rhestr plaid yn hytrach nag ymgeisydd, ac ni allant wrthod unrhyw ymgeiswyr unigol a enwebwyd.

Byddai pleidiau'n cael eu gorfodi i enwebu rhestrau sy'n cynnwys dynion a merched yn gyfartal, gyda rhestrau ymgeiswyr yn cael eu gosod am yn ail rhwng dynion a merched.

Ar hyn o bryd mae'r Senedd yn cael ei hethol drwy gymysgedd o'r cyntaf i'r felin ar gyfer 40 o etholaethau, a rhestrau plaid ar gyfer yr 20 Aelod o'r Senedd sy'n weddill.