Cyngor Gwynedd yn prynu tai preifat i'w rhentu i bobl leol
- Cyhoeddwyd

Mae bron i un ym mhob 10 o dai yng Ngwynedd yn ail gartrefi
Mae Cyngor Gwynedd wedi cychwyn y broses o brynu tai preifat a'u rhentu allan, mewn ymgais i fynd i'r afael ag "argyfwng digartrefedd" y sir.
Yn ôl deilydd portffolio tai'r awdurdod, maen nhw wedi prynu wyth cartref ar draws y sir hyd yma, gan gynnwys mewn cymunedau fel Abersoch a'r Bermo.
Ond mae cynlluniau yn barod i brynu mwy - rhan o strategaeth i fynd i'r afael â "heriau sylweddol yn y maes digartrefedd" a chreu tai fforddiadwy.
Mae'n rhan o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £77m er mwyn ceisio darparu 1,500 o dai fforddiadwy, sy'n cynnwys tynnu 100 o dai allan o'r farchnad breifat a'u rhentu allan i bobl leol.
'Mwy o gartrefi'n dod ar y farchnad'
Yn ystod cyfarfod diweddar o'r cabinet dywedodd yr aelod dros dai, Craig ab Iago, fod 669 o bobl y sir bellach yn ddigartref - ffigwr a ddisgrifiodd fel "nifer eithriadol" - gyda 211 arall mewn llety dros dro.
Yn ôl Mr ab Iago mae'r cyngor eisoes wedi prynu, neu yn y broses o brynu, tai yn ardaloedd Abersoch, Nefyn, Pwllheli, Llanbedr, Llanberis, Tywyn, Llan Ffestiniog a Bermo.

Craig ab Iago: "Ein bwriad yw gosod y tai ar rent canolradd i berson gyda chysylltiadau lleol ac angen tŷ o'r fath"
"Rydym yn gweld mwy o gartrefi yn dod ar y farchnad," meddai.
"Mae 70% o landlordiaid bellach yn dweud eu bod am werthu eu tai. Mae'n dangos pa fath o sefyllfa rydym yn ymdrin â hi bellach.
"Mae'n dilyn diwedd ar reolau Adran 21, lle roedd landlordiaid yn gallu cael gwared ar denantiaid yn gyflym heb unrhyw reswm.
"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y landlordiaid sy'n gwneud hynny - 169 mewn blwyddyn, 14 mewn mis, sy'n nifer eithriadol.

Lleoliadau'r cartrefi sydd wedi neu am eu prynu
"Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o adrodd bod wyth tŷ bellach wedi'u prynu, gyda phump arall naill ai'n agos at gael eu cwblhau neu'n amodol ar gontract ac yn nwylo cyfreithwyr.
"Ein bwriad yw gosod y tai ar rent canolradd i berson gyda chysylltiadau lleol ac angen tŷ o'r fath."
Annog landlordiaid i brydlesu
Roedd yr adran hefyd wedi gweithio ar gynllun prydlesu, gan gynnig pecyn cymorth i landlordiaid.
"Mae rhai landlordiaid wedi etifeddu tai ac eisiau helpu pobl leol," meddai.
"Dydyn nhw ddim eisiau gwerthu, gan nad ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n mynd i'w cael.

Ni all 92% o'r boblogaeth yn Abersoch fforddio prynu cartref yn yr ardal, yn ôl adroddiad o 2020
"Mae'r llywodraeth wedi rhoi targed o bedwar tŷ i ni ar gyfer hyn, ond rydyn ni mewn proses o gael 19 o dai ar y cynllun hwnnw."
Y nod yw cynyddu nifer y tai cyngor drwy symud pobl o lety dros dro i lety parhaol, annog landlordiaid i brydlesu eiddo i'r cyngor am 5-20 mlynedd, a rhent gwarantedig.
"Rydyn ni'n gofyn iddyn nhw weithio gyda ni i gartrefu pobl leol, rydyn ni'n tynnu'r straen allan o'r broses, mae yna incwm gwarantedig yno," meddai.
Roedd y cyngor hefyd yn bwriadu prynu "tir datblygu addas" i ddatblygu ei dai ei hun.
Ychwanegodd Mr ab Iago ei fod hefyd yn annog unrhyw un sydd â chartref neu dir i'w werthu, i gysylltu â'r adran tai ac eiddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022