'Argyfwng tai': Prynwyr yn llythyru at berchnogion Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Llythyr

Mae'r galw am dai mewn rhannau o Wynedd mor fawr nes bod darpar brynwyr sy'n chwilio am eiddo yn cysylltu'n uniongyrchol gyda pherchnogion tai yn y gobaith o'u prynu a'u gosod fel cartrefi gwyliau.

Gyda phrisiau eiddo wedi cynyddu'n sylweddol mewn rhannau o'r gogledd, mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi tynnu sylw at raddfa'r her sy'n wynebu pobl sy'n ceisio prynu am y tro cyntaf.

Mae adroddiad gan Gyngor Gwynedd yn dangos bod bron 11% o stoc dai'r sir bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau.

Dywedodd arweinydd y grŵp annibynnol, y Cynghorydd Angela Russell, fod ei merch wedi derbyn llythyr yn ei chartref ym Mynytho gan unigolion sy'n byw yn Halifax yn Lloegr ac yn yn chwilio am eiddo yn ardal Abersoch.

Ychwanegodd ei bod yn "bryderus" pa mor gyflym yr oedd eiddo mewn ardaloedd fel Llanbedrog a Mynytho yn cael ei werthu ar hyn o bryd.

"Rwy'n bryderus iawn bod y galw rŵan fel petai mor uchel fel bod darpar brynwyr hyd yn oed yn cysylltu gyda phobl leol ac yn ceisio eu perswadio i werthu."

Dywedodd y llythyr gafodd ei anfon at Claire Russell Griffiths: "Rydym yn chwilio am eiddo yn ardal Abersoch lle gallem fyw ond hefyd er mwyn gosod rhan o'r eiddo ar gyfer gwyliau - mewn geiriau eraill rydym yn edrych ar gyfer eiddo a fyddai'n rhoi incwm a chartref i ni.

"Byddai gennym ddiddordeb mewn eiddo nad yw ar gyfer ei osod fel cartref gwyliau ond sydd â'r potensial i gael ei ymestyn i ddarparu ar gyfer ei osod ar gyfer gwyliau, os oes gennych unrhyw ffrindiau sy'n ystyried gwerthu eu heiddo sydd â'r fath botensial yn enwedig ym Mynytho, pasiwch y llythyr hwn ymlaen atynt."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gerddodd ymgyrchwyr i bencadlys Cyngor Gwynedd o Ben Llŷn ddiwedd mis Medi i i fynnu ateb i'r 'argyfwng ail gartrefi' yn yr ardal

Dangosodd ffigyrau diweddar gan gymdeithas adeiladu'r Principality fod prisiau tai yng Ngwynedd wedi codi at y gyfradd uchaf ledled Cymru yr haf hwn, gan gyrraedd cyfartaledd uchaf newydd o £198,279.

Mae un cynghorydd Llafur yng Ngwynedd yn galw car ei blaid ym Mae Caerdydd i weithredu gan nad oedd "erioed wedi gweld y farchnad fel ag y mae heddiw".

Dywedodd y cynghorydd Sion Jones, sydd wedi gweithio ers dros ddegawd yn y diwydiant gwerthu tai: "Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhyddhad o ran y Dreth Trafodiad Tir, ac ystyried Covid-19 a nifer yr eiddo sydd wedi aros i fynd ar y farchnad yn dilyn y cyfnod clo, mae'r farchnad dai wedi newid dros nos mewn rhannau o Wynedd.

"Mae prisiau wedi codi i uchafbwynt newydd gan fod pobl o ddinasoedd yn Lloegr wedi penderfynu eu bod eisiau mwy o'r awyr agored a lle, felly mae lleoliad gwyliau gogledd Cymru wedi troi'n leoliad ail gartrefi, gan brisio pobl leol allan o'r ardal."

'Rhaid i bobl leol gael blaenoriaeth'

Ychwanegodd y cynghorydd sy'n cynrychioli ward Bethel: "Mae'n warth llwyr, ac fe ddylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl leol yn gallu aros yn lleol a phrynu cartrefi am bris fforddiadwy.

"Nid yw'r polisïau cyfredol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn gweithio'n ymarferol ar lawr gwlad, gyda thai fforddiadwy mewn lleoedd fel Abersoch, Mynytho, Nefyn yn bell o fod yn hynny."

Ychwanegodd: "Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater hwn ar frys, ac er fy mod yn realistig yn meddwl na allwn wneud unrhyw beth gyda'r stoc bresennol o dai, ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol, rhaid i ni sicrhau bod pobl leol yn cael blaenoriaeth."

11% yn dai gwyliau

Daw wrth i arolwg ddangos bod bron 11% o stoc dai Gwynedd - 6,849 o dai - bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau.

Mae hynny'n gynnydd sylweddol ar y nifer o 2001 - 4,415 o dai.

Disgrifiad o’r llun,

Ni all 92% o'r boblogaeth yn Abersoch fforddio prynu cartref yn yr ardal, yn ôl adroddiad newydd

Yn ôl yr adroddiad, a gomisiynwyd gan yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb am gynllunio, mae bron i 60% o bobl y sir yn methu fforddio prynu cartref yn eu hardaloedd.

Ond mewn pentrefi fel Abersoch a Llanengan mae'r ffigwr dros 90%.

Mae'r adroddiad yn argymell rhoi'r pwerau i'r cyngor sir i gymeradwyo newid statws tŷ yn gartref gwyliau, yn ogystal â chyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol i lety gwyliau.

Dywedodd yr aelod cabinet dros gynllunio, Gareth Griffith, bod yr adroddiad yn rhoi "ffeithiau a thystiolaeth glir" ac yn dangos y "pwysau enfawr sy'n wynebu cymunedau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro yn benodol".

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan y cyngor yn ddiweddarach yn y mis.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Dyfrig Siencyn, "nid gor-ddweud yw disgrifio'r sefyllfa bresennol fel argyfwng tai difrifol"

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, er bod gan bobl leol hawl sylfaenol i fyw a gweithio yn eu cymunedau, roedd prisiau tai a'r farchnad ail gartrefi sydd "allan o reolaeth yn llwyr" yn golygu bod yr hawl hwn yn "cael ei wrthod iddyn nhw".

"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu o fewn y pwerau cyfyngedig sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

"Rydym wedi lobïo Llywodraeth Cymru yn gyson ac yn gadarn i fynd i'r afael â'r anghysondeb sy'n caniatáu i berchnogion ail gartref osgoi talu unrhyw Dreth y Cyngor o gwbl trwy gofrestru eu heiddo fel busnesau."

Disgrifiad,

Mae gweld ardal Nefyn "fel mynwent" yn y gaeaf yn "drist ofnadwy" meddai Rhys Tudur

Ychwanegodd yr arweinydd: "Dros y dyddiau nesaf byddwn hefyd yn lansio Cynllun Gweithredu Tai uchelgeisiol i gynyddu argaeledd cartrefi i bobl leol yng Ngwynedd ac yn cyhoeddi darn pwysig o waith ymchwil i fesurau sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill i reoli'r farchnad ail gartrefi.

"Nid gor-ddweud yw disgrifio'r sefyllfa bresennol fel argyfwng tai difrifol. Yn ogystal â gweithredu'n lleol, rhaid i Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru hefyd weithredu ar unwaith i gyflwyno'r ddeddfwriaeth y mae taer angen amdani i fynd i'r afael â'r argyfwng yma.

"Os ydyn nhw'n methu â gwneud hynny, dim ond ychydig flynyddoedd fydd hi cyn y bydd pentrefi ledled Gwynedd yn peidio â bodoli fel cymunedau gweithredol hyfyw.

"Mae'r sefyllfa mewn gwirionedd mor ddifrifol â hynny."

'Sefyllfa gymhleth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ddiweddar, cyfarfu'r Prif Weinidog â grŵp o bobl ifanc o Llŷn i glywed eu pryderon a'u cynigion ar gyfer datrys y sefyllfa gymhleth hon, y mae cymunedau mewn rhai rhannau o Gymru yn ei phrofi.

"Mae'r rhain yn faterion pwysig i Lywodraeth Cymru.

"Mae gweinidogion wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol i archwilio atebion effeithiol a chytbwys gan adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes yn nhymor y Senedd hon."

Pynciau cysylltiedig