Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-1 Rotherham

  • Cyhoeddwyd
Joel Piroe'n sgorio yn erbyn RotherhamFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joel Piroe'n sgorio ei 13eg gôl o'r tymor i roi Abertawe ar y blaen

Roedd yna fwio ar ddiwedd y gêm yn Stadiwm Swansea.com nos Lun wedi i Abertawe ond gael gêm gyfartal - gôl yr un - yn erbyn Rotherham, sydd yn is na nhw yn y Bencampwriaeth.

Fe roddodd Joel Piroe yr Elyrch ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf ar ôl derbyn pas penigamp gan Ryan Manning a tharo'r bêl i waelod gornel y rhwyd.

Daeth Rotherham yn gyfartal yn fuan wedi'r egwyl - yn haeddiannol, wedi sawl ymosodiad addawol - pan lwyddodd Chiedoze Ogbene i rwydo tra'n straffaglu i gadw ar ei draed.

Cynyddu wnaeth hyder yr ymwelwyr wedi hynny a phrin oedd y cyfleoedd i Abertawe geisio sgorio am gyfnod.

A Rotherham yn wir ddaeth yn agosaf at gipio'r fuddugoliaeth cyn y chwiban olaf.

Mae Abertawe, sydd ond wedi ennill tair gêm o'r 18 diwethaf yn y gynghrair, yn aros yn y 15fed safle, gan gynyddu'r pwysau ar y rheolwr Russell Martin.