Cân i Gymru 2023: 'Patagonia' gan Alistair James yn fuddugol
- Cyhoeddwyd

'Patagonia' gan Alistair James sydd wedi cipio tlws Cân i Gymru 2023, a gwobr ariannol o £5,000.
Cafodd y gân, oedd yn cael ei pherfformio gan Dylan Morris, ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr rhaglen Cân i Gymru ar S4C.
Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy.
Mae'n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio'n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn 2005.
Eleni oedd y trydydd tro iddo gystadlu ar Cân i Gymru (2008 a 2020) ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd ei ysbrydoli ar ôl darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobl o'r gogledd yn mynd â'r Gymraeg i ben draw'r byd.
Wedi ei lwyddiant dywedodd Alistair James: "Mae hwn i Russ Hayes, fy nghynhyrchydd i sydd wedi bod trwy gyfnod mor anodd.. .Mae o jyst yn golygu'r byd, diolch - diolch i bawb am bleidleisio, diolch am ddod. Diolch!"
Roedd 104 o ganeuon wedi'u cyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth.
Yn ail a thrydydd
Yn ail yn y gystadleuaeth ac yn ennill £2,000 roedd Cân i Mam gan Huw Owen o Lanberis.
Ef a gyfansoddodd ac a berfformiodd y gân oedd wedi ei hysgrifennu i'w fam wedi iddi fynd drwy'r profiad o gael canser.
Mae llawer yn gyfarwydd â Huw Owen fel cyflwynydd Cyw ar S4C.
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd erioed ond dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu yng Nghân i Gymru.
Yn drydydd ac yn ennill £1,000 roedd Cysgu gan Alun Tan Lan ac yn perfformio roedd Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth o'r grŵp Tant.
Mae Alun Tan Lan o Landdoged ger Llanrwst yn hen ben ar gystadlu ar Cân i Gymru. Eleni oedd y pedwerydd tro iddo gystadlu.
Enillodd y gystadleuaeth yn 2010 a pherfformiodd yn 2013 a 2016.
Mae o wedi bod yn aelod o'r band Y Niwl ers 2009. Ysbrydoliaeth fwyaf y gân 'Cysgu' oedd myfyrdod ac edrych yn ôl ar sut oedd pethau mewn bywyd wrth symud ymlaen.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, nos Wener, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.
Roedd y panel o arbenigwyr wnaeth ddewis yr wyth gân orau yn cynnwys Eädyth, Gwyneth Glyn, Arfon Wyn, ac Ifan Davies.

Y caneuon eraill a gyrhaeddodd yr wyth olaf:
Y Wennol
Cyfansoddi a pherfformio: Siôn a Liam Rickard (Lo-fi Jones)
Fe wnaeth Siôn Rickard gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd gyda'r gân 'Rhiannon'.
Erbyn hyn mae yntau a'i frawd o Fetws y Coed wedi sefydlu'r band Lo-fi Jones ac yn credu eu bod yn creu cerddoriaerth gwell drwy gydweithio.
Atgofion o symlrwydd bywyd ieuenctid a byd natur oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gân
Melys
Cyfansoddi a pherfformio: Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills, Tomos Mills (The Night School)
Dyma aelodau band roc The Night School o Abertawe. Penderfynodd y pedwar ar yr enw gan eu bod i gyd wedi cael profiadau'n gweithio fel athrawon.
Dechreuodd y band yn 2016 ac mi fydd eu halbwm cyntaf o'r enw 'Dianc' yn cael ei ryddhau yn 2023.


Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well
Cyfansoddi: Dafydd Dabson
Perfformio: Bryn Hughes Williams
Daw Dafydd Dabson yn wreiddiol o Ben Llŷn ac erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd.
Mi wnaeth o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2018 gyda'r gân "Dwi'm Yn Dy Nabod Di".
Mae ganddo ddau brosiect ar hyn o bryd, sef Codewalkers yn Saesneg a Derw yn Gymraeg ac roedd y gân 'Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well' yn gân obeithiol am y dyfodol ac am newid hinsawdd.

Rhydian Meilir oedd enillydd Cân i Gymru 2022 gyda'r gân Mae yna Le
Eiliadau
Cyfansoddi a pherfformio: Ynyr Llwyd
Cafodd Ynyr Llwyd ei fagu ym Mhrion, pentref bach tu allan i Ddinbych, a mae bellach yn byw ym Modelwyddan.
Mae'n gweithio fel Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, ac yn dal i fwynhau cyfansoddi a pherfformio ei ganeuon ei hun.
Mae wedi cystadlu o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyrraedd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth.
Thema'r gân oedd hiraethu am blentyndod a gorchfygu teimladau negyddol.
Tangnefedd
Cyfansoddi a pherfformio: Sera Zyborska a Eve Goodman
Daw Sera Zyborska ac Eve Goodman yn wreiddiol o Gaernarfon.
Mae Sera bellach yn byw yn Llanfairpwll yn gweithio i'r gymuned leol ac yn rhedeg gweithdai cerdd i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Eve yn byw yn Y Felinheli ac yn gweithio'n llawn amser fel cyfansoddwr a pherfformiwr.
Cafodd y ddwy eu dewis i fod yn rhan o brosiect Gorwelion BBC Cymru yn 2019 ac ers hynny maen nhw wedi bod yn ysgrifennu gyda'i gilydd.
Roedd natur yn ysbrydoliaeth fawr i 'Tangnefedd'.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022