Caerdydd: Tri wedi marw ar ôl i bum person fod ar goll

  • Cyhoeddwyd
Darcy Ross, Rafel Jeanne, Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad

Mae tri o bobl wedi eu canfod yn farw ar gyrion Caerdydd bron i 48 awr ar ôl i dair menyw a dau ddyn fynd ar goll yn dilyn noson allan.

Bu farw Eve Smith, 21, a Darcy Ross, 21, o Gasnewydd, a Rafel Jeanne, 24, o Gaerdydd, yn dilyn y digwyddiad.

Mae Shane Loughlin, 32, a Sophie Russon, 20, yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae'r heddlu yn credu bod y pump wedi bod mewn car a fuodd mewn gwrthdrawiad ar ôl dod oddi ar y ffordd.

Cafodd y pump ohonynt eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd am tua 02:00 ddydd Sadwrn.

Roedden nhw'n teithio mewn car Volkswagen Tiguan, a gafodd ei ganfod am 00:15 ddydd Llun ger yr A48 yn ardal Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd.

Mae'r A48 yn un o'r prif ffyrdd i mewn i Gaerdydd ac fe gafwyd hyd i'r car gan aelod o'r cyhoedd ger cylchfan brysur yn agos at ganolfan arddio.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shane Loughlin a Sophie Russon yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol

Dros y penwythnos, apeliodd teulu a ffrindiau'r grŵp coll ar y cyfryngau cymdeithasol am gymorth i ddod o hyd iddynt.

Roedd y menywod, o Gasnewydd, wedi mynd i glwb The Muffler yn ardal Maesglas y ddinas yn hwyr ddydd Gwener.

Yna fe wnaethon nhw deithio 36 milltir (58km) i Fae Trecco, maes carafanau ym Mhorthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r ddau ddyn, sydd o Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y car ei ganfod yn oriau mân y bore ddydd Llun ger yr A48 yn ardal Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn gosod teyrngedau a blodau ger y lleoliad lle cafwyd hyd i'r car

Cafon nhw eu gweld ddiwethaf yn Llanedern, Caerdydd, yn oriau mân dydd Sadwrn.

Cafwyd hyd i'w car ychydig wedi hanner nos fore Llun, ond nid yw'n glir eto pryd y digwyddodd y ddamwain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau a theyrngedau wedi bod yn cael eu gadael ger y safle yn ystod y dydd

Mae llawer o deyrngedau wedi eu rhoi yn barod ar-lein i'r rheiny fu farw.

Dywedodd cyfaill i'r ddwy fenyw a gafodd eu lladd fod Darcy Ross "yn belydryn o haul go iawn", a bod Eve Smith "yn ferch ifanc hardd gyda chalon o aur".

Mewn neges arall, ysgrifennodd cyfaill i Shane Loughlin fod beth ddigwyddodd yn "dorcalonnus".

"Mae fy nghorff i'n dal i grynu... o feddwl amdanyn nhw i gyd yna drwy'r holl amser yna," meddai.

"Rwy'n dymuno gwellhad buan i Sophie ac yn anfon fy holl gariad a nerth i'r holl deuluoedd."

Ychwanegodd: "Fi mor falch ohonon ni gyd am dynnu at ein gilydd mas yna yn chwilio am ein ffrindiau annwyl neithiwr."

Mae perthynas i Miss Smith wedi diolch i bobl am eu cefnogaeth, wrth apelio "am amser fel teulu i ddod i delerau gyda'r newyddion ofnadwy yma".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r gwasanaethau brys wedi bod yn yr ardal

AR LEOLIAD: Gohebydd BBC Cymru Alun Thomas

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg iawn ar yr A48 y bore 'ma, gyda nifer o gerbydau wedi'u parcio a'u goleuadau glas yn fflachio.

Mae'r ffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad gyda thâp yr heddlu wedi'i osod i atal cerbydau rhag teithio arni.

Cafodd ffens werdd ei gosod lle gadawodd y car y ffordd, wrth i swyddogion arbenigol yr heddlu barhau â'u hymchwiliadau.

Ychydig ar ôl 12:30 cafodd y car ei gludo i ffwrdd o'r safle coediog wrth yr ymyl yr A48, cyn i'r ffens werdd gael ei thynnu i lawr hefyd.

Trwy gydol y bore mae'r heddlu wedi bod yn bresennol ar y safle a sawl injan dân yma am gyfnod hefyd.

Mae rhyw hanner dwsin o dorchau o flodau wedi'u gosod ar y glaswellt gyferbyn â safle'r digwyddiad, gydag un criw o bobl ifanc yno am beth amser yn syllu ar y fan lle daeth y car oddi ar y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn credu i'r car fod mewn gwrthdrawiad ar ôl dod oddi ar y ffordd ger yr A48

Mae Heddlu De Cymru ac Heddlu Gwent bellach wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), fel sy'n arferol mewn achos o'r fath.

Dywedodd yr IOPC y byddan nhw'n cynnal asesiad er mwyn penderfynu a oes angen iddynt gymryd unrhyw weithredoedd pellach.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai nhw sydd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad.

Mewn datganiad brynhawn Llun dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Jason Davies eu bod yn "meddwl am deuluoedd pawb sydd wedi eu heffeithio yn dilyn y digwyddiad trasig hwn".

"Mae swyddogion arbenigol yn ymchwilio i geisio darganfod beth ddigwyddodd," meddai.

"Mae swyddogion arbenigol hefyd yn cefnogi'r teuluoedd yn ystod adeg sy'n siŵr o fod yn anodd tu hwnt iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi'u gadael ar ochr y ffordd ar gyrion Caerdydd

Mae'r A48 yn Llaneirwg bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad, wedi iddi fod ynghau tan tua 13:30 wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod y ffordd ar gau," meddai Heddlu'r De mewn datganiad.

"Mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad hwn."

Pynciau cysylltiedig