Pum munud gyda'r actores Nia Gandhi

  • Cyhoeddwyd
nia

Mae Nia Gandhi'n actores ifanc sydd yn rhan o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Pijn/Pigeon, ac wedi bod ar gwrs dysgu Cymraeg dwys er mwyn ei helpu i baratoi at y sioe.

Yn wreiddiol o'r Fenni, mae ei thad o India a'i mam yn Wyddeles o Newry, ac mae Nia'n dysgu Cymraeg ac yn cofleidio ei diwylliant Cymreig.

Cafodd Cymru Fyw y cyfle i holi Nia am ei chefndir a'i gyrfa.

"Ges i fy magu yn Y Fenni, ac rwy'n caru'r lle - mae'n dref farchnad hardd, digon o le i fynd am dro ac mae yna fwyd da 'na. Dwi'n meddwl bod pawb dwi'n 'nabod o'r dref sydd tua fy oed i wedi gweithio yn yr ŵyl fwyd yno ar ryw adeg!"

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Nia yn ymarfer ar set y ddrama Pijn/Pigeon

Er ei bod yn actio ar sgrîn a llwyfan bellach, nid actores oedd Nia eisiau bod pan oedd hi'n iau: "O'n i eisiau bod yn astroffisegydd pan o'n i'n iau, ond yna daeth yr adeg i geisio am lefydd yn y brifysgol, a newidiais i fy meddwl jest cyn gwneud.

"O'n i'n meddwl os na faswn i'n rhoi cynnig ar actio y byddwn i'n flin efo fy hun rhyw ddydd, felly 'nes i benderfynu roi cynnig arni a mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd."

Rhan actio gyntaf Nia wedi iddi orffen yn y brifysgol oedd ffilm fer It's My Shout. "Roedd hwnna'n lot o hwyl! Kevin McCurdy oedd yn cyfarwyddo, a fe sy'n cynllunio y rhannau ymladd yn y ddrama rwyf ynddi ar hyn o bryd - 'nath e hefyd fy nysgu i yn y coleg ac mae mor braf gweithio gyda fe nawr."

Ffynhonnell y llun, celf calon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddrama Pijn/Pigeon yn seiliedig ar y nofel 'Pigeon' gan Alys Conran

Enola Holmes 2

Yn 2022 cafodd Nia ran yn y ffilm Enola Holmes 2 - cynhyrchiad enfawr Netflix gyda Millie Bobby Brown, Henry Cavill a Helena Bonham Carter.

"Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf i o fod ar set fawr ac roedd e'n brofiad mor wych. Mae'r rhan fwyaf o beth rwy'n ei wneud ar y llwyfan felly roeddwn i mor bryderus am fod ar set ffilm fawr fel hyn. Ond roedd 'na bobl mor garedig yn gweithio ar y cynhyrchiad a oedd yn help mawr i'r actorion llai profiadol.

"Mae gwahanol math o nerfs o fod ar llwyfan ac ar ffilm - ar lwyfan allwch chi newid pethau o noson i noson a gwneud pethau ychydig yn wahanol, ble ar ffilm mae mwy o bwysau i chi wneud pethau yn gwbl gywir ar gyfer y shot yna."

Pijn/Pigeon

Ar hyn o bryd mae Nia'n rhan o gynhyrchiad Pijn/Pigeon sydd ar daith o amgylch Cymru. Dechreuodd y daith yng Nghanolfan Pontio Bangor ar 27 Chwefror ac mae'n gorffen yng Nghaernarfon ar 25 Mawrth.

Hefyd yn actio yn y ddrama mae Owen Alun, Elin Gruffydd, Carwyn Jones a Lisa Jên Brown.

"Mae'n adrodd hanes bachgen sy'n tyfu fyny yng ngogledd Cymru. Mae'n ymwneud â iaith a diwylliant, ac ambell i bwnc mwy dwys a thywyll hefyd."

Ffynhonnell y llun, celf calon
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Marlow sy'n gyfrifol am addasiad llwyfan Pijn/Pigeon a Lee Lyford yw'r cyfarwyddwr

Actio'n Gymraeg

Mae Pijn/Pigeon yn ddrama ddwyieithog, ac mae gweddill y cast yn siaradwyr Cymraeg fel iaith gyntaf.

Er mwyn ei chefnogi hi yn ystod yr ymarferion a'r daith, a'i helpu i weithio mwy trwy gyfrwng y Gymraeg, fe wnaeth y cynhyrchiad anfon Nia ar gwrs dwys i ddysgu Cymraeg yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn ac mae'n dweud iddi fwynhau'r profiad o actio ar y sioe.

"'Nes i fwynhau gymaint", meddai Nia. "Roedd y cwrs wedi ei deilwra i fy anghenion i, achos weithiau dydi cyrsiau iaith ddim yn fuddiol.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

"Roedden ni'n trafod sut i feddwl yn y Gymraeg, yn hytrach na jest dysgu termau Cymraeg a cyfieithiadau uniongyrchol. Mae actio yn ymwneud ag emosiynau, teimladau a phobl, ac roedd y cwrs yn caniatáu imi ddysgu ffyrdd Gymraeg i wneud hyn."

Mae hefyd wedi mwynhau'r profiad o actio ar y sioe. "Dwi'n meddwl bod o mwy neu lai yn 50-50 Cymraeg a Saesneg, ac mae hynny wedi bod mor lyfli i fi fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg", meddai Nia.

"Cyn gwneud y sioe roeddwn i'n pryderu gymaint, achos dwi wir eisiau bod yn rhugl yn y Gymraeg, ond dwi wedi bod mor nerfus yn siarad - dwi gymaint eisiau cael pethau'n iawn yn y sioe. Mae pobl wedi bod mor amyneddgar a hael efo fi ar y cynhyrchiad 'ma."

Wedi i gynhyrchiad Pijn/Pigeon ddod i ben mae Nia am wneud ychydig o ysgrifennu dramâu byr, ond mae hi hefyd yn edrych 'mlaen i barhau gyda'r dysgu Cymraeg.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig