Y Cymry arloesgar ym myd gwyddoniaeth
- Cyhoeddwyd
Ar 12 Mawrth mae'r rhaglen wyddoniaeth Yfory Newydd yn dychwelyd i Radio Cymru am ail gyfres. Mae'r rhaglen yn rhoi'r chwyddwydr ar y Cymry sy'n arloesi ym myd gwyddoniaeth ac sy'n gweithio yn rhai o ganolfannau ymchwil gorau'r byd.
Elin Rhys o gwmni Telesgop yw cynhyrchydd a chyflwynydd y gyfres, ac mae hi'n teimlo'n angerddol ac yn gyffrous ynglŷn â'r datblygiadau newydd o fewn y maes.
Bydd y gyfres tair rhaglen yn edrych ar waith gwyddonwyr o Gymru sy'n dyfeisio teclynnau i wneud ein bywydau yn haws, yn chwilio am y gwirionedd tu ôl i'r bydysawd, yn chwilio am atebion i rai o broblemau mwyaf dyrys meddygaeth, ac yn canfod ffyrdd i arafu newid hinsawdd.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i bobl sylweddoli bod gwyddoniaeth yn ymwneud â'u bywydau pob dydd nhw. Mae pawb yn defnyddio gwyddoniaeth, prynai bod nhw mo'yn neu beidio," meddai Elin Rhys.
"Rwy'n credu bod Covid wedi dysgu i ni hefyd bod angen i ni fod bach fwy ymwybodol o beth all meddygaeth wneud i helpu ni. Y dechnoleg aeth mewn i'r masgiau a'r brechlyn cafodd eu gweithredu'n gyflym - digwyddodd hynny am fod gwyddonwyr wedi ymchwilio fewn i'r pethe 'ma, a pam mae nhw'n cael digon o arian mae nhw'n gallu gwneud gwyrthiau.
Merched yn arloesi
"Yn y tair rhaglen dwi'n cyfweld gyda thair menyw sydd yn trio ffeindio cyffuriau newydd yn y sefydliad darganfod cyffuriau yng Nghaerdydd; Mari Davies, Lois Lewis a Llinos Honeybun.
"Maen nhw ar ddechrau'r daith i ddyfeisio cyffuriau newydd; proses sy'n gallu cymryd 15-20 mlynedd weithiau! Ac yn y rhaglen olaf fe fyddai'n siarad a Dr Meryn Griffiths, biocemegydd profiadol sydd yn arwain tim o wyddonwyr mewn treialon clinigol ar gyffuriau newydd i gwmni o wlad Belg.
"Mae'n braf gweld cymaint o fenywod yn gweithio o fewn bio-feddygaeth, achos yn fy amser i doedd dim llawer ohonyn nhw i gael. Mae prinder o ferched ym myd ffiseg a pheirianneg o hyd. Ac erbyn hyn mae modd gwneud y pynciau drwy'r Gymraeg oherwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol."
Datblygu lled-ddargludyddion
"Mae eitem gen i yn yr ail raglen ynglŷn â lled-ddargludyddion (semiconductors), a all fod digon i hala ofn ar rywun. Ond mae ein sgriniau ffôn, teledu, cyfrifiaduron, camera ac ati i gyd yn cynnwys lled-ddargludyddion.
"Mae Dr Emrys Evans o Brifysgol Abertawe yn datblygu y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion fydd yn ein teclynnau bach bob dydd, rhai mwy effeithiol ac sydd wedi eu haddasu i weithio gyda ynni solar.
"I wneud hyn mae Emrys yn defnyddio ymchwil wreiddiol wnaeth e ar lygaid Robin Goch, a sut maen nhw'n adweithio gyda maes magnetig y ddaear!
Pwysigrwydd Cwm Idwal
Mae academydd ym Mhrifysgol Manceinion wedi gwneud gwaith ymchwil ar rewlifoedd, ac mae'n nodi arwyddocâd un ardal yn Eryri. Yn rhaglen gyntaf y gyfres mae Elin yn cyfweld â Iestyn yng nghanol mynyddoedd y gogledd.
"Ddes i ar draws papur gwyddonol gan Dr Iestyn Barr o Brifysgol Manceinion sy'n newid ein dealltwriaeth o hanes rhewlifol y ddaear," meddai Elin. "Y gred oedd bod rhewlifoedd wedi ffurfio ar y ddaear 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond yn ystod cyfnod y clo fe wnaeth Iestyn i fapio olion rhewlifoedd ar Antarctica o luniau lloeren, gan brofi bod nhw yn mynd nôl 64 miliwn o flynyddoedd!
"Roedd yn defnyddio beth oedd e'n wybod am Gwm Idwal ar gyfer y mapio ac mae e'n ystyried Cwm Idwal fel y Cwm gorau yn y byd o ran olion rhewlifol. Nes i gyfweld e yn Cwm Idwal, ac hefyd teithio i Fanceinion i weld y stafell lle ddigwyddodd y cyfan!"
Cymro yn yr Antartig
Ond gwnaeth Iestyn fyth fynd i Antarctica ei hun - yn wahanol i un arall o gyfrannwyr Yfory Newydd, Dr Huw Griffiths.
"Yn y newyddion yr wythnos diwethaf fe dorrodd stori fawr bod y Cenhedloedd Unedig wedi llwyddo cael cytundeb rhwng 100 o wledydd am amddiffyn y moroedd mawr.
"Maen nhw wedi bod yn trio cael cytundeb ar hyn ers tua ugain mlynedd er mwyn sicrhau bod bywyd môr yn cael chwarae teg. Mae'n arwyddocaol i ymchwil Huw Griffiths sydd ar fwrdd llong ymchwil newydd y Sir David Attenborough yn yr Antarctig ar hyn o bryd yn chwilio am fywyd newydd, a llwyddais i gael gafael arno ar y ffôn yn y rhaglen gyntaf."
O un pegwn ar ein planed ni, i blaned hollol wahanol...
Mae Elin hefyd yn cyfweld â gwaith ymchwil i'r gofod a'r ymgais i gael mwy o wybodaeth o blaned Mawrth. Ond mae digwyddiadau rhyngwladol diweddar wedi effeithio ar waith dau o Gymry sy'n gysylltiedig â hyn.
"Rwy hefyd yn siarad gyda Dr Helen Miles a Dr Matt Gunn o Brifysgol Aberystwyth. Dros yr flwyddyn d'wetha wrth gwrs mae 'na ryfel wedi bod yn Wcráin, ac yn sgil hyn cafodd prosiect ExoMars ei chanslo, oherwydd roedd e i fod i gael ei lansio o Rwsia ym mis Hydref, ac roedd y glaniwr wedi ei gynhyrchu.
"Roedd Dr Helen Miles a Dr Matt Gunn yn gweithio ar y camera ar y glaniwr (y Rosalind Franklin). Oherwydd y rhyfel bydden nhw nawr methu lansio tan 2028, gyda Asiantaeth Ofod Ewrop yn ailadeiladu glaniwr yn hytrach na Rwsia. Felly mae'n syndod faint o effaith mae'r rhyfel wedi cael ar wyddoniaeth, ac mae wedi effeithio yn uniongyrchol ar eu gwaith nhw yn Aberystwyth.
"Braf oedd cael mynd am dro gyda Dr Cai Ladd i Gwm Ivy ar Benrhyn Llun i son am bwysigrwydd morfeydd heli er mwyn amddiffyn ein harfordiroedd, a chynnal bioamrywiaeth. Mae'r morfa heli bach hwn newydd ailffurfio ar ôl i forglawdd dorri a gadael dŵr y môr nôl i mewn."
Mae nifer o wyddonwyr Cymru yn edrych am atebion i leihau CO2 a chreu ynni glan.
"Yn y gyfres ry ni'n sôn am ymasiad niwcliar (nuclear fusion), a'r gobaith o gael y dull hwn i gynhyrchu ynni. Mae ganddon ni ynni gwynt, ynni solar... ond bydd hynny ddim yn ddigon ar gyfer y dyfodol gan bod y galw am egni wedi cynyddu gymaint.
Mae'r haul yn ffwrnes sy'n cynhyrchu egni a gwres, felly y bwriad yw i gopïo beth mae'r haul yn ei wneud mewn adweithyddion ar y ddaear. Ymasiad (fusion) yw enw'r broses. Mi fyddai'n cynhyrchu egni glân, hollol ddiogel, dim gwastraff ymbelydol a dim siawns iddo ffrwydro... ond dydi nhw ddim cweit wedi cyrraedd 'na eto. Mae angen llawer o ddyfeisgarwch i greu seren ar y ddaear.
"Ma'r plasma yn yr adweithydd yn grasboeth - dychmygwch pa mor dwym yw'r haul ei hun! Felly mae rhaid cynhyrchu deunyddiau sy'n gallu gwrthsefyll y fath wres tu fewn i'r adweithydd. Mae gwyddonwyr o Gymru - Dr Llion Evans a'i fyfyriwr doethuriaeth, Rhydian Lewis, o Brifysgol Abertawe yn creu modelau cyfrifiadurol o ddeynyddiau addas. Tra bod Dr Catrin Mair Davies yng Ngholeg Imperial Llundain yn trio cysylltu y deynyddiau at ei gilydd drwy arbrofi mewn ffwrnesi yn ei labordy."
Prinder athrawon gwyddoniaeth
Yn ddiweddar daeth y newyddion bod y nifer o athrawon sy'n mynd mewn i ddysgu gwyddoniaeth yn gostwng yng Nghymru, ac mae hyn yn achosi pryder i Elin Rhys.
"Mae fe wir yn fy ngofidio i. Athrawon sydd yn tanio dychymyg ac ysbrydoli. Roedd hi'n braf bod gyda Jake Davies o brosiect Siarc Cymru yn Ysgol Gynradd Edern ym Mhen Llŷn. Nath e ysbrydoli'r disgyblion wrth sôn am fywyd y môr sydd ger ein harfordir ac fe ofynon nhw gwestiynnau gwych. A phan ofynnais iddyn nhw beth oedden nhw am fod wedi tyfu lan roedd nifer am fod yn wyddonwyr o rhyw fath, ac un 'ishe bod fel Jake!'
"Mae llawer o gyfleon i wyddonwyr yng Nghymru, ac mae'r ymchwil mae ein prifysgolion yn 'neud yn arloesol gyda busnesau yn deillio ohonno fe. Mae angen sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymru yn codi - ac ma fe'n ofid os nad oes digon o wyddonwyr yn mynd yn athrawon i'w hysbrydoli nhw.
Cymry blaenllaw yn CERN
"Yn y rhaglen olaf rwy'n mynd nôl i CERN. Dyma'r arbrawf mwyaf yn y byd, gyda Chymry, o brifysgol Abertawe, yno o'r dechrau yn y 50au.
"Y cyntaf i fynd mas i Genefa o Brifysgol Abertawe oedd Eifionydd Jones o Dreforys. Wedyn aeth Lyn Evans o Aberdar yno gan adeiladu y Large Hadron Collider er mwyn trio ffeindio atebion i sut wnaeth y bydysawd ddechrau. Mae'r LHC yn ceisio ail greu y glec fawr a 10 mlynedd yn ôl fe wnaeth ddarganfod y Boson Higgs.
"Mae rhai yn gofyn ' beth yw'r pwynt?'...ond mae deall sut mae'r bydysawd yn gweithio yn hollbwysig, ac mae sgil effeithiau'r ymchwil yn gyfrifol am bob math o dechnoleg fel PET Scanners, er engraifft, sydd yn achub bywydau. Ac wrth gwrs gwyddonydd yn CERN nath greu y We Fyd Eang - a ni gyd yn defnyddio hwnnw!" .
"Mae 'na Gymro Cymraeg bellach yn un o'r penaethiaid yn CERN a dylem ddathlu hynny. Mae Dr Rhodri Jones yn athrylith. Dyw e erioed 'di byw yng Nghymru ag eithrio 6 mlynedd yn astudio yn Abertawe a bellach mae e a'i wraig Sharon yn magu pedair o ferched yn Ffrainc i siarad Cymraeg yn rhygl, ar y cyd gyda Saesneg a Ffrangeg."
Mae'r gyfres Yfory Newydd yn rhoi darlun hynod bositif o'r byd gwyddonol yng Nghymru, a'r gobaith yw y gwelwn llawer mwy o lwyddiannau dros y blynyddoedd nesaf.
Hefyd o ddiddordeb: