Cyhuddo dyn mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tomasz Waga yn dilyn ymosodiad arno yng Nghaerdydd yn 2021

Mae'r heddlu wedi arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 23 oed yng Nghaerdydd.

Daethpwyd o hyd i Tomasz Waga yn anymwybodol ar stryd yn ardal Penylan y brifddinas ym mis Ionawr 2021.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod Elidon Elezi o East Finchley, Llundain, wedi cael ei gyhuddo o dorri amodau mechnïaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol (organised crime group).

Mae disgwyl i'r dyn 23 oed ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 10 Mawrth.

Yn gynharach eleni cafodd tri dyn eu carcharu am guro Mr Waga i farwolaeth ar ôl iddo geisio dwyn cyffuriau oddi arnyn nhw.

Cafodd dyn arall, Artan Palluci, 31, ei arestio yn Llundain ym mis Chwefror ar amheuaeth o gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol ac o dorri amodau mechnïaeth.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa tan ei achos llys.