Cynnig brechiadau atgyfnerthu Covid-19 i ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd brechiadau atgyfnerthu'n parhau i bobl dros 75

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynnig cyffredinol o frechiad atgyfnerthu COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Ond fe fydd y brechiad yn parhau i gael ei gynnig i bobl dros 75, oed a'r rheiny sy'n wynebu risg uwch o niwed.

Bydd grwpiau risg uwch, a phobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd, yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu os bydd meddyg neu glinigydd yn eu cynghori i'w gael.

I bobl sydd heb dderbyn eu brechiadau cyntaf, bydd dal modd gwneud hynny hyd at 30 Mehefin.

Fe fydd y rhaglen ddiweddaraf o frechiadau atgyfnerthu ar gyfer pobl fregus yn dechrau ar 1 Ebrill.

'Y ffordd orau o'ch amddiffyn'

Dywedodd Syr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol: "Mae'r coronafeirws yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau, felly rydyn ni'n cynnig brechiad atgyfnerthu arall i'r rheiny sydd fwyaf agored i niwed y gwanwyn hwn.

"Bydd yr unigolion hynny sy'n gymwys i gael eu brechu yn dechrau derbyn eu gwahoddiadau yn yr wythnosau nesaf.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Frank Atherton yn annog pobl i gymryd y cyfle i gael eu brechiadau

"I unrhyw un sydd ddim wedi derbyn eich cwrs sylfaenol na'ch brechiad atgyfnerthu gwreiddiol eto - dyw hi ddim yn rhy hwyr.

"Gwnewch apwyntiad i gael eich brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd y mis hwn neu eich cwrs sylfaenol erbyn 30 Mehefin.

"Brechu yw'r ffordd orau o hyd o'ch amddiffyn eich hun a'r bobl o'ch cwmpas i atal lledaeniad COVID-19, a byddwn yn annog pawb i gael eu brechu."

'Lefel uchel o imiwnedd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell bod modd newid y drefn frechu oherwydd y lefel uchel o imiwnedd sydd bellach wedi'i meithrin yn y boblogaeth.

Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr y JCVI, bydd y brechlyn atgyfnerthu nawr yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a throsodd;

  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn;

  • unigolion 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y bydd rhaglen atgyfnerthu arall yn cael ei gynnal yn yr hydref, yn dilyn cyngor pellach gan y JCVI.