Talu £2,000 am gyffur Covid 'er mwyn cael normalrwydd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Roedd Abigail Wooding yn dal i warchod rhag Covid oherwydd na chynhyrchodd ei chorff y gwrthgyrff i'w hamddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Abigail Wooding yn dal i warchod rhag Covid oherwydd na chynhyrchodd ei chorff y gwrthgyrff i'w hamddiffyn

Mae menyw a warchododd ei hun rhag Covid am ddwy flynedd a hanner wedi gwario mwy na £2,000 yn cael cyffur i wella ei himiwnedd.

Cymerodd Abigail Wooding y cyffur Evusheld oherwydd bod ganddi system imiwnedd wan ac nad oedd hi'n cael ei hamddiffyn cymaint gan frechlynnau Covid.

Bu galwadau i'r cyffur atal Covid fod ar gael am ddim ar y GIG.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn aros am arweiniad gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau.

Mae Evusheld yn driniaeth gwrthgyrff a gymerir ddwywaith y flwyddyn i amddiffyn pobl fel Abigail sydd â system imiwnedd wannach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r driniaeth gwrthgyrff yn hybu amddiffyniad rhag Covid i'r rhai nad yw eu systemau imiwnedd yn ymateb yn dda i frechlynnau

Mae gan y fenyw 50 oed o Arberth, Sir Benfro, ddiffyg imiwnedd cyfnewidiol cyffredin sy'n golygu ei bod mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd Covid ac yn cael llai o warchodaeth gan frechlynnau.

Dim ond yn breifat y mae'r driniaeth ar gael ar hyn o bryd, ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu na fyddai'n cyflenwi Evusheld.

Cafodd Abigail chwe brechlyn Covid ond methodd ei chorff â chynhyrchu'r gwrthgyrff sydd eu hangen i frwydro yn erbyn y feirws.

Felly arhosodd hi a'i theulu yn ofalus, hyd yn oed ar ôl i gyfyngiadau ddod i ben.

"Rydych chi'n gweld pobl yn mynd allan yn parhau gyda'u bywydau ac eisiau gwneud yr un peth ac eisiau gweld eich ffrindiau a'ch teulu," meddai.

"Ond mae yna gred gyhoeddus hefyd nad yw Covid yn broblem.

"Os mai chi yw'r un sy'n gwarchod neu'n gwisgo mwgwd o hyd, efallai y bydd pobl yn meddwl eich bod chi ychydig yn hysterig, sy'n eithaf anodd."

Dechreuodd merch Ms Wooding, sydd yn ei harddegau, addysgu gartref gan ei bod yn bryderus am wneud ei mam yn sâl.

"Doedd hi ddim yn mynd i dŷ ffrindiau nac i bartïon, ac wedi dechrau teimlo hynny'n wirioneddol oherwydd ei bod yn anodd i deimlo'n wahanol yn yr oedran hwnnw," meddai Ms Wooding.

"Doedd e ddim yn deg iddi hi yn fwy na dim arall... felly doeddwn i ddim wir yn teimlo bod gen i lawer o opsiwn."

Disgrifiad o’r llun,

Teimlai Abigail nad oedd yn deg i'w theulu barhau i'w gwarchod felly prynodd ddos o Evusheld ar ei cherdyn credyd

Penderfynodd Ms Wooding dalu am Evusheld ym mis Tachwedd.

Yn ogystal â chost y dos, bu'n rhaid iddi dalu ffi ymgynghori preifat, ffi am weinyddu'r cyffur a chostau teithio i Lundain - sef y lle agosaf y gallai ei gael - gan gostio cyfanswm o tua £2,000.

'Talu am normalrwydd'

Dywedodd: "Doedd gen i ddim yr arian, roedd yn rhaid i mi ei roi ar gerdyn credyd. A bydd yn rhaid i mi gyda'r dos nesaf eto."

Dangosodd profion ar ôl cael y pigiad Evushel fod ganddi wrthgyrff Covid am y tro cyntaf. Mae'r effaith ar ei bywyd wedi bod yn enfawr.

"Mynd i mewn ac allan o dai ffrindiau, cael ffrindiau draw am ginio, mynd i fwytai, caffis, y dafarn a fy mhlant yn gallu mynd allan heb boeni a ydyn nhw wedi gwisgo mwgwd a gallu cymdeithasu," meddai.

"Mae'n normalrwydd ond ni ddylai fod yn rhaid i mi dalu am normalrwydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evusheld ar gael ar hyn o bryd mewn 32 o wledydd

Cymeradwywyd Evusheld i'w ddefnyddio ym mis Mawrth, ond cafodd ei adolygu ar ôl i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg.

Roedd data a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd yn dangos bod pobl a oedd wedi ei gymryd hanner mor debygol o gael Covid-19 na'r rhai oedd heb gymryd y cyffur.

Dywedodd y gwneuthurwr cyffuriau AstraZeneca fod "digon o ddata" ei fod yn gweithio. Mae ar gael ar hyn o bryd mewn 32 o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Chanada.

Dywedodd Richard Stanton, Athro firoleg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae cael y mathau hyn o gyffuriau ar gael yn bwysig iawn er mwyn rhoi rhywfaint o hyder i bobl sydd ag imiwnedd wan, os ydyn nhw'n dal y feirws, bod yna ffordd o'i drin a ffordd o'u hatal rhag bennu mewn ysbyty."

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Awst y byddai'n aros nes bod Evusheld wedi cael ei arfarnu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) cyn penderfynu a fyddai'n sicrhau ei fod ar gael ar y GIG.

'Cwbl annerbyniol'

Dechreuodd NICE werthuso a yw Evusheld yn glinigol ac yn gost-effeithiol ym mis Gorffennaf, gydag arfarniad llawn yn cymryd tua blwyddyn.

Gallai pobl sy'n cymryd gwrthimiwnyddion, gan gynnwys cleifion lewcemia, clefyd yr arennau, a ffibrosis yr ysgyfaint hefyd elwa o Evusheld.

Dywedodd Steve Jones, cadeirydd Action for Pulmonary Fibrosis: "Rydym mewn sefyllfa nawr, hyd yn oed os yw NICE yn bositif, mae'n annhebygol y bydd Evusheld ar gael tan ar ôl y Pasg.

"Blwyddyn lawn ar ôl America a gwledydd datblygedig eraill. Mae hynny'n gwbl annerbyniol i gleifion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arfarniad llawn gan NICE yn cymryd tua blwyddyn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid oes unrhyw gynlluniau i gaffael Evusheld ar hyn o bryd.

"Does dim tystiolaeth newydd arwyddocaol i awgrymu ei fod yn effeithiol yn erbyn amrywiolion Omicron ac mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod ei effeithiolrwydd yn llai yn erbyn amrywiolion mwy newydd y gaeaf hwn.

"Mae NICE yn ystyried y dystiolaeth ar gyfer Evusheld ar hyn o bryd a byddwn yn adolygu'r sefyllfa unwaith y bydd y canllawiau wedi'u cyhoeddi."