Y Bencampwriaeth: Millwall 2-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi colli am y trydydd gêm yn olynol ar ôl cael eu trechu oddi cartref yn Millwall.
Er i Abertawe reoli'r meddiant yn yr hanner cyntaf doedden nhw methu â chreu llawer o gyfleoedd clir, gydag Olivier Ntcham a Ryan Manning yn cael arbedion wedi'u harbed.
Talodd yr Elyrch am hynny yn gynnar yn yr ail hanner, wrth i dafliad hir Ryan Leonard i'r cwrt cosbi gael ei rhwydo yn y diwedd gan Charlie Creswell i roi Millwall ar y blaen.
Dyblwyd y fantais wedi 55 munud o ergyd Andreas Voglsammer, gyda'r golwr Andy Fisher yn methu â'i chadw allan er iddo gael ei ddwylo i'r bêl.
Roedd Abertawe yn ôl ynddi dri munud yn ddiweddarach, wedi i ergyd Ashley Grimes wyro i mewn oddi ar Ryan Manning.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i'r Elyrch, sydd nawr wedi mynd chwe gêm heb ennill.