Rhybudd melyn am law trwm i Gymru dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl glaw trwm ar draws rhannau helaeth o Gymru dros nos, wrth i rybudd tywydd melyn ddod i rym.
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am law o hanner nos tan 15:00 ddydd Iau.
Yn ôl y rhagolygon, mae rhwng 40-70mm o law yn "debygol" mewn sawl ardal o'r wlad.
Mae gyrwyr wedi eu rhybuddio i fod yn ofalus ar y ffyrdd, ac i ddisgwyl llifogydd mewn rhai mannau.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Torfaen a Sir Fynwy.
Daw hynny yn dilyn rhybudd o rew oedd eisoes wedi bod mewn grym ar draws 17 o siroedd Cymru, ddaeth i ben fore Mercher.