Tua 200 mewn gorymdaith gwrth-hiliaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tua 200 o bobl ymgasglu ar gyfer gorymdaith gwrth-hiliaeth yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu er mwyn nodi diwrnod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaeth ar sail Hil.
Roedd y bobl oedd yn bresennol hefyd yn protestio yn erbyn cyfraith newydd gan Lywodraeth y DU, fydd yn cyflwyno mesurau newydd i gael gwared ar ymfudwyr sy'n dod i'r wlad ar gychod bach.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Tra ein bod wedi ymrwymo i greu mwy o lwybrau i ddiogelwch ar gyfer pobl sy'n agored i niwed ar draws y byd, mae'n rhaid i ni gael gafael ar y cynnydd mewn mudo anghyfreithlon ac atal y cychod."
Roedd nifer o grwpiau gwahanol yn bresennol gan gynnwys undebau llafur, Refugees Welcome Here a Stand up to Racism Cymru, ynghyd â gwleidyddion o Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
'Sefyll mewn undod yn erbyn hiliaeth'
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Nimi Trivedi o Stand up to Racism Cymru: "Mae heddiw am ddangos undod, y ffaith ein bod yn byw mewn cymdeithas amlddiwyllianol, a'n bod ni'n sefyll mewn undod, pobl ddu a gwyn, o ba bynnag gefndir, ein bod yn sefyll mewn undod yn erbyn hiliaeth."
Bydd y Bil Mudo Anghyfreithlon yn atal pobl sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon rhag hawlio lloches neu geisio am ddinasyddiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â hiliaeth i ben trwy eu cynllun Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy'n anelu i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
'Cymru yn genedl o ddiogelwch'
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Rydym yn edrych tuag at Gymru lle mae lleisiau a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig nid dim ond yn cael eu gweld a'u clywed, ond hefyd eu gweithredu arno.
"Mae Cymru hefyd yn genedl o ddiogelwch ac rydym yn parhau i alw ar yr Ysgrifennydd Cartref i ddatblygu ffyrdd diogel a chyfreithlon i'r DU, sydd ddim yn gofyn am deithiau peryglus, ac i sicrhau bod y rhai sydd yn barod yma yn gallu cyfrannu'n llawn i'n cymdeithas."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae gan y DU hanes balch iawn o ddarparu lloches i'r rhai sydd wir ei angen trwy ein ffyrdd diogel a chyfreithlon, gan gynnig diogelwch a lloches i bron hanner miliwn o ddynion, menywod a phlant.
"Tra ein bod wedi ymrwymo i greu mwy o lwybrau i ddiogelwch ar gyfer pobl sy'n agored i niwed ar draws y byd, mae'n rhaid i ni gael gafael ar y cynnydd mewn mudo anghyfreithlon ac atal y cychod.
"Dyna pan ein bod yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fydd yn gweld pobl sy'n dod i'r DU yn anghyfreithlon yn wynebu cael eu dal a'u symud allan o'r wlad yn gyflym."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022