Carfan Cymru yn ôl gyda'i gilydd am 'bennod newydd'

  • Cyhoeddwyd
Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn siom Cwpan y Byd mae carfan wahanol iawn yr olwg yn ymgynull o flaen dwy gêm fawr

Wrth i garfan Cymru ddod yn ôl gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd yn Qatar, mae 'na wynebau amlwg yn absennol.

Yn sgil ymddeoliadau Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams, dim ond pedwar chwaraewr sydd ar ôl bellach o'r 'genhedlaeth aur' wreiddiol aeth i Euro 2016.

Ond gydag ymgyrch newydd ar droed, mae'r rheolwr Rob Page hefyd yn dechrau ar "bennod newydd" i'r tîm.

Y wobr ar ddiwedd yr ymgyrch fydd Euro 2024 yn Yr Almaen - ac felly, heb Covid na thaith bell i'r Dwyrain Canol i amharu, bydd y chwaraewyr a'r cefnogwyr yn dechrau breuddwydio'n barod am haf arall fel Ffrainc.

'Haeddu ei le'

Cyn hynny, fodd bynnag, mae'r rhaid cyrraedd yno.

Bydd Cymru'n agor eu hymgyrch ddydd Sadwrn i ffwrdd yn Croatia - tîm a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn Qatar - cyn croesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd dridiau'n ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n wynebu Croatia yn Split cyn chwarae'n erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Parhau fydd yr ymgyrch i Fehefin, Medi a Hydref, cyn gorffen gyda thrip i Armenia a gornest - dyngedfennol o bosib - gartref yn erbyn Twrci ym mis Tachwedd.

Bydd y ddau uchaf o'r pump tîm yn y grŵp yn sicrhau eu lle yn Euro 2024, ac mae disgwyl mai gornest rhwng Croatia, Cymru a Thwrci fydd honno.

Ond yn ffodus i garfan Page, oherwydd eu safle yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2022, mae Cymru fwy neu lai yn saff o le yn y gemau ail gyfle hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gorffen yn y ddau uchaf.

Mae'r rheolwr wedi cynnwys pedwar o wynebau newydd yn y garfan, sydd eto i ennill cap - yn ogystal â chyn-ymosodwr Aberystwyth Tom Bradshaw, 30, a enillodd yr olaf o'i dri chap yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Bradshaw yn mwynhau tymor llewyrchus gyda'i glwb, Millwall

Mae'r blaenwr wedi sgorio 13 gôl dros Millwall yn y Bencampwriaeth y tymor yma, ac yn "haeddu ei le" yn garfan eto yn ôl y sylwebydd Malcolm Allen.

"Nes i ddeud dyla fo 'di mynd i Gwpan y Byd, ond 'naeth [Page] fynd â Mark Harris," meddai ar bodlediad Coridor Ansicrwydd.

"Mae o'n cynnig rhywbeth gwahanol. Mae ganddo fo reddf naturiol i sgorio goliau."

Wynebau newydd

Ychwanegodd cyn-ymosodwr Cymru ei fod "wrth ei fodd" bod Page wedi dod â wynebau newydd i'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Sêr y dyfodol? (O'r chwith i'r dde) Jordan James, Nathan Broadhead, Luke Harris ac Oli Cooper

"Mae o fatha pennod newydd," meddai.

"Ti'n edrych ar y chwaraewyr heb gapiau - Ollie Cooper, Jordan James, Nathan Broadhead a Luke Harris.

"Dwi wrth fy modd fod 'na elfen newydd, pennod newydd, ac wedi 'neud un neu ddau o benderfyniadau mawr.

"Mae o wedi dallt, dwi'n meddwl, bod calon y tîm yng nghanol cae angen newid."

Gallai Harris, blaenwr Fulham sydd ond yn 18 oed, fod yn "seren fawr nesaf" y garfan, meddai Malcolm Allen.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Ond mae hefyd yn disgwyl gweld Jordan James, chwaraewr canol cae 18 oed Birmingham City, yn cael ei gyfle dros y dyddiau nesaf.

"Hogyn bach ifanc yng nghanol cae, digon o fynd arno fo, ac mae ganddo fo ryw olwg bach creadigol," meddai.

"Dwi'n meddwl bendant fydd o'n cael gêm ar ryw adeg."

"Neith [Page] fynd yn brofiadol yn erbyn Croatia, ond yn bendant neith rhein gael munudau ar y cae [yn erbyn Latfia]."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r capten newydd, Aaron Ramsey, bellach yn chwarae ei bêl-droed ym mhrif adran Ffrainc

Er y wynebau newydd fodd bynnag, mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Owain Tudur Jones yn credu fod digon o brofiad ar ôl yn y garfan o hyd.

"Yn y gemau dwi'n meddwl bydd Page yn ddibynnol ar yr 14, 15 chwaraewr mae o'n eu 'nabod yn dda," meddai.

"Mae o fyny [i'r chwaraewyr newydd], dros cwpl o garfanau, i brofi i Rob Page - neu os mae 'na anafiadau, maen nhw'n barod i ddod mewn."

'Un o'n chwaraewyr pwysica' ni'

Bydd Aaron Ramsey'n cymryd yr awenau fel y capten newydd ar gyfer yr ymgyrch i ddod, gyda Ben Davies yn is-gapten iddo - y ddau yn siaradwyr Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Ben Davies adael y maes tra'n chwarae i Spurs brynhawn Sadwrn

Ond mae amheuon dros ffitrwydd Davies wedi iddo orfod gadael y cae i Tottenham dros y penwythnos gydag anaf.

"Mi fysa hwnna'n ergyd - un o'n chwaraewyr pwysica' ni," meddai Owain Tudur Jones wrth siarad ar Chwaraeon Radio Cymru ddydd Sul.

"Y chwaraewr, dros y blynyddoedd dwytha', sydd wedi chwarae ei bêl-droed ar y lefel uchaf o unrhyw un yn y garfan, a dwi'n cynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn y rhestr yna.

"Felly mae Ben mor bwysig i ni - bosib neith o orfodi Rob Page i fynd efo pedwar yn y cefn."