Cyhoeddi Aaron Ramsey fel capten newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
![Aaron Ramsey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17654/production/_128982859_62f71e61-59bb-482f-ad22-cba5f7f73e4f.jpg)
Mae Aaron Ramsey bellach yn chwarae ei bêl-droed ym mhrif adran Ffrainc
Mae Aaron Ramsey wedi ei benodi'n gapten y tîm pêl-droed cenedlaethol am yr eildro.
Roedd chwaraewr Nice yn gapten ar ei wlad rhwng 2011 a 2012 cyn pasio'r awenau i Ashley Williams.
Ond ddydd Mawrth, yn dilyn cyhoeddi'r garfan i wynebu Croatia a Latfia, cadarnhaodd Robert Page mai Ramsey fydd yn arwain y tîm yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale.
Bellach yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan, mae'r siaradwr Cymraeg 32 oed wedi ennill 78 cap.
Er trafferthion gydag anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gwneud 21 ymddangosiad dros ei glwb yn Ligue 1 y tymor hwn.
Mae Cymro Cymraeg arall, Ben Davies, wedi ei gadarnhau fel is-gapten y garfan.
![Aaron Ramsey a John Terry](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12834/production/_128982857_e3ac1b78-aaca-4c2c-94bc-7579cb967f67.jpg)
Roedd Aaron Ramsey eisoes yn gapten ar ei wlad rhwng 2011 a 2012
Meddai Page: "Roedd Aaron yn is-gapten y tu ôl i Gareth ac i mi dyna'r dilyniant naturiol.
"Tra bod gennym ni rywun o'i safon yn y garfan o hyd, roedd yn benderfyniad naturiol.
"Fe gymerodd Aaron Gwpan y Byd yn galed, fel y gwnaethon ni i gyd.
"Ond doedd dim amheuaeth o gwbl am ei ddyfodol ac eisiau chwarae i Gymru."
Ychwanegodd Page ei fod yn benderfyniad anodd rhwng penodi Ramsey ac amddiffynnwr Tottenham.
"Rwy'n gweld Ben Davies fel capten y dyfodol a bydd ei rôl yn debyg i rôl Gareth ac Aaron," meddai.
Bydd Ramsey yn arwain y tîm oddi cartref yn Croatia ar 25 Mawrth ac yna Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 28 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023