Ateb y Galw: Yr Athro Emyr Lewis
- Cyhoeddwyd
Yr athro a'r bardd Emyr Lewis o Brifysgol Aberystwyth sydd yn Ateb y Glaw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Jerry Hunter.
Cafodd Emyr ei eni yn Llundain ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn 6 oed er mwyn iddo a'i chwiorydd gael addysg Gymraeg.
Bu'n gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd, Abertawe a Phontypridd am 35 mlynedd, cyn cael ei benodi yn bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2019. Mae ei waith barddol wedi ennill cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Y gwir plaen ydi nad ydw i ddim yn cofio, er bod gen i frith gof o ambell beth fel adrodd stori wrth fy chwaer fach Catrin.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le a phob man lle gellir clywed y Gymraeg.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Parti priodas Angharad a fi, yn dawnsio i Ail Symudiad.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cyn Fethodist Calfinaidd.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Mae'n debyg pan oeddwn tua dwy oed, ac yn siaradus a chymdeithasol iawn, 'mod i wedi ceisio tynnu sgwrs efo rhyw aderyn mewn parc drwy ddweud 'tiwt' wrtho (noder - nid 'twît' - does ryfedd iddo beidio trafferthu ateb).
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae arna'i gywilydd dweud bod gormod o ddewis gen i.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn rhy ddiweddar.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy Nhadcu, Edgar Thomas a fu farw yn fuan wedi refferendwm 1979, er mwyn cael un gêm olaf o ddraffts efo fo a sôn wrtho am hynt a helynt Cymru yn y cyfamser. Gwydraid o sieri fyddai'r ddiod.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes. Cwestiwn nesa plîs.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr ar unrhyw adeg yw hwnnw y byddaf wedi cael gafael arno ar y pryd, ac yntau arnaf i. Ar hyn o bryd mae 'Cymru Fydd' nofel newydd William Owen Roberts yn cyflawni'r gwaith hwnnw. Mae'n deud stori dda yn grefftus, yn codi cwestiynau mawr am wleidyddiaeth Cymru, yn gynnil ei chyfeiriadaeth, yn creu byd amgen dychmyglon ac yn peri chwerthin mawr o dro i dro.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Hyd nes 'mod i'n chwech oed roeddwn yn siarad Saesneg ag acen gocni, ac mae hi'n ailymddangos o hyd weithiau os byddaf byth yn mynd i Lundain (rhywbeth y byddaf yn osgoi ei wneud ar y cyfan).
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro ar hyd llwybr arfordir Ceredigion (os yw dal yno) gan obeithio y byddai'n ddiwrnod braf.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Y darlun syml hwn o gegin ein cartref yng Nghraig-cefn-parc gan fy merch Esyllt.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rhywun y byddai'n dda i mi allu gweld y byd o'i phersbectif.
Hefyd o ddiddordeb: