Llanelli yn tynnu 'nôl o Uwch Gynghrair Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
LlanelliFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llanelli yn mynnu nad dyma'r diwedd i'r clwb

Mae Clwb Rygbi Llanelli wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n cystadlu yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru y tymor nesaf.

Dywedodd y clwb na fydd modd iddynt roi tîm at ei gilydd oherwydd bod gemau ychwanegol, o ganlyniad i ehangu'r gynghrair.

Mae'r clwb hefyd yn dweud y bydd mwy o alw ar y clwb i ddarparu chwaraewyr i'r Scarlets, sy'n wynebu toriadau mawr i'w cyllid ac absenoldeb chwaraewyr rhyngwladol oherwydd Cwpan y Byd.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y Scarlets, Rupert Moon, fod y penderfyniad wedi'i wneud "er budd Llanelli a'r Scarlets".

'Storm berffaith'

Mae Llanelli yn un o'r enwau mawr ym myd rygbi, gyda sêr fel Phil Bennett, Ray Gravell, Delme Thomas, Stephen Jones ac Ieuan Evans wedi gwisgo crys coch enwog y clwb.

Ond mae'n wynebu'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "storm berffaith" y tymor nesaf.

Bydd mwy o gemau yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru am fod y gynghrair yn ehangu o 12 i 14 tîm, sy'n golygu pedair gêm ychwanegol i bob clwb.

Mae hefyd disgwyl i bedwar rhanbarth Cymru dorri ar nifer eu chwaraewyr oherwydd toriadau i'w cyllidebau - gyda'r Scarlets yn rhagweld y bydd y garfan yn cwtogi o 50 i 38 chwaraewr - sy'n golygu y bydd mwy o alw ar Lanelli i ddarparu chwaraewyr i'r rhanbarth.

Ar ben hynny, bydd y Scarlets yn colli nifer o chwaraewyr am ychydig fisoedd am eu bod i ffwrdd yn Ffrainc yng Nghwpan y Byd, sy'n golygu y bydd hyd yn oed yn fwy o alw am help o ran chwaraewyr.

Phil Davies yn codi cwpanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llanelli wedi ennill Cwpan Cymru 14 gwaith

Ond mae Llanelli yn mynnu nad dyma'r diwedd i'r clwb.

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn clybiau o Gymru a Lloegr er mwyn parhau i ddatblygu chwaraewyr i'r Scarlets.

Mae Llanelli ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, ac wedi colli 14 o'u 16 gêm hyd yn hyn y tymor yma.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mercher er mwyn trafod penderfyniad Llanelli i dynnu 'nôl o'r gynghrair.

"Mae URC yn cydymdeimlo, ac eisoes wedi cynnig cefnogaeth ble bynnag fo hynny'n bosib," meddai llefarydd.