Arestio dyn wedi i fachgen 13 oed gael ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd
De Clare DriveFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bachgen ei daro ar Ffordd De Clare yn ardal Radyr brynhawn Mawrth

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 13 oed gael ei daro gan gar yn Radyr ar gyrion Caerdydd.

Cafodd Heddlu'r De eu galw wedi adroddiadau bod car Vauxhall Corsa glas wedi taro'r plentyn ar Ffordd De Clare toc wedi 15:30 brynhawn Mawrth.

Mae'r bachgen yn parhau yn yr ysbyty.

Mae'r dyn, 27, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus, ac wedi'i ryddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig