Cyn-gadeirydd rhanbarth Caerdydd, Peter Thomas, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Peter ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Davies yn gyn-gadeirydd rhanbarth rygbi Caerdydd ac yn brif noddwr i'r clwb

Bu farw'r gŵr busnes a chyn-gadeirydd rhanbarth rygbi Caerdydd, Peter Thomas, yn 79 oed.

Roedd wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yng nghlwb rygbi Caerdydd, a gyda'i frawd fe sefydlodd y cwmni pastai enwog Peter's Pies.

Roedd enw Peter Thomas yn gysylltiedig â rygbi yn y brifddinas am ddegawdau.

Yn y 60au bu'n chwarae i'r clwb fel bachwr - yn yr un cyfnod â Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies.

Fe chwaraeodd 11 o weithiau i'r tîm cyntaf, ac i dîm Athletig Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Peter Thomas yn dathlu ennill y Gwpan Eingl-Gymreig gyda Ma'ama Molitika yn Twickenham yn 2009

Yn 1995 cafodd ei benodi'n gadeirydd clwb rygbi Caerdydd, yn y cyfnod pan oedd rygbi'r undeb yn troi'n broffesiynol, ac ef oedd un o brif noddwyr ariannol y clwb, gan gyfrannu rhyw £14m i'r coffrau.

Daeth yn gadeirydd rhanbarth Gleision Caerdydd adeg y newid mawr i'r gêm yng Nghymru yn 2003.

Fe adawodd fel cadeirydd ar ddechrau 2019, ond fe gadwodd ei le ar y bwrdd rheoli ac yntau bellach yn llywydd am oes.

Peter's Pies a'r maes awyr

Roedd hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus.

Fe ddechreuodd ef a'i frawd Stanley yn y busnes pobi pastai trwy helpu eu tad yn ei bopty ym Merthyr, cyn mynd ati i sefydlu eu busnes eu hunain.

Agorodd cwmni Peter's Savoury Products ar ddechrau'r 1970au, ar safle ym Medwas ger Caerffili

Fe dyfodd y cwmni, gan ehangu marchnadoedd y tu hwnt i dde Cymru, cyn i'r ddau frawd benderfynu ei werthu ym 1988.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Peter Thomas ei anrhydeddu gyda medal CBE yn 2021

Ar ôl hynny fe drodd Peter a Stanley Thomas at fusnesau eiddo.

Nhw oedd prif gyfranddalwyr cwmni TBI, a brynodd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd pan gafodd ei breifateiddio ym 1995.

Cafodd TBI ei werthu i gwmni o Sbaen yn 2004, ac roedden nhw'n gyfrifol am y safle yn Y Rhws tan i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013.

Roedd presenoldeb Peter Thomas yn yr eisteddle yn rhan annatod o Barc yr Arfau am ddegawdau, a'i gyfraniad i rygbi yn y brifddinas yn aruthrol.

Pynciau cysylltiedig