Cwsmeriaid yn sownd mewn maes parcio am oriau
- Cyhoeddwyd

Ciw o gerbydau'n ceisio gadael maes parcio Dewi Sant
Mae rheolwyr canolfan siopa wedi ymddiheuro wedi i drafferthion gyda goleuadau traffig arwain olygu bod rhai cwsmeriaid heb allu gadael maes parcio aml-lawr am bron i dair awr.
Fe ddigwyddodd y trafferthion yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd nos Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan: "Rydym yn ymwybodol pa mor rhwystredig yw tagfeydd ac mae'n ddrwg ganddom ynghylch unrhyw anhwylustod."
Ychwanegodd bod "tagfeydd yng nghanol y ddinas wedi achosi ciw yn y maes parcio a bod trefn newid goleuadau traffig tu allan [i'r allana] wedi golygu bod y ciw wedi cymryd peth amser i glirio".
Dywedodd un o'r siopwyr, Wendy, ei bod wedi treulio tair awr mewn ciw, gan gynnwys hoe o hanner awr i nôl bwyd a choffi.
Roedd yna elfen o "syndod", meddai gan fod gymaint o draffig yn ceisio mynd allan o faes parcio sydd ond ag un allanfa".
"Fe symudodd pethau pan agorodd y maes parcio y rhwystr fel bod dim rhaid i'r ceir stopio."