Tri llun: Izzy Rabey
- Cyhoeddwyd
Mae Izzy Rabey yn gerddor a chyfarwyddwr theatr amryddawn sydd wedi gweithio gyda chwmn茂au fel Theatr Genedlaethol Cymru a'r Royal Court yn ogystal 芒 sefydlu ei chwmni drama ei hun, Run Amok. Yn wreiddiol o Fachynlleth enillodd Wobr 2022 yng Ngwobrau'r Selar, dolen allanol eleni.
Mae wedi rhannu tri o'i hoff luniau gyda Chymru Fyw.
Fi a Taid
Dyma un o fy hoff luniau o fi a fy nhaid, Ken Rabey - cerddor jazz wnaeth rili ysbrydoli fi i weithio ar fy ngherddoriaeth o oedran cynnar (fel allwch chi weld). Roedd o'n berson mor gefnogol a brwdfrydig, ac yn unigolyn mor ddiddorol a chreadigol.
Fe wnaeth o fynd ar daith o gwmpas Ewrop yn 15 oed gyda gr诺p o landladies lleol, rhedeg band dawns jazz am 25 mlynedd, dylunio offer diogelwch ar gyfer cychod ac roedd pawb oedd yn cwrdd 芒 fo yn ei garu. Roedd ganddo un o'r personoliaethau mwya' cynnes a chroesawgar 'wy erioed wedi adnabod.
Mae fy ngh芒n Gwaed yngl欧n a'i hanes, a ffeindio mas am ei gefndir ddwyrain canol ar 么l iddo farw. Mae'r llun yma yn 'neud i mi wenu achos 'wy dal yn defnyddio dwylo fi fel hyn pryd 'wy'n canu!
Fi a Molly yn Greenman 2016
Mae'r llun yma o fy ffrind gore a hanner arall fy mand The Mermerings, Molly McBreen, a minnau wedi ei dynnu ar gamera tafladwy yn Greenman 2016, y flwyddyn cyntaf aeth ein cwmni Dan Yr Haul (cwmni drama cymwysiedig sy'n gwneud gweithdai ar gyfer gwyliau).
Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i ni ddechrau yr antur blynyddol o deithio o gwmpas gwyliau yng Nghymru a Lloegr, cael anturiaethau bythgofiadwy, gwyllt a doniol. Mae Molly wedi gwisgo fel Frida Kahlo a finne fel m么r-forwyn, a byse ni'n galw'r combo yma 'The Free-Maids'.
Bob tro rydym ni mewn g诺yl, rydyn ni'n dal i greu gwisgoedd gyda thema ar gyfer bob diwrnod gyda paent wyneb, glitter, yr holl beth! I fi mae'r llun yma yn cynrychioli fy ugeiniau rhydd, creadigol, llawn anturiaethau a 'counter culture'.
Fi ac Eadyth gyda Band Pres Llarregub, Afrocluster a Mr Phormula, Pafiliwn yr Eisteddfod 2022
Roedd y noson yma yn un o nosweithiau pwysicaf fy ngyrfa fel cerddor. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau gweithio gyda Band Pres Llarregub, ac mae aelodau Afrocluster a finne wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd - roedd fy mand The Mermerings yn gweithio ar ddwyn aelodau'r adran bres ar gyfer ein gigs ni cyn i mi symud i Lundain!
Mae'r gerddoriaeth rwy'n creu gyda Eadyth wedi cael llwyddiant sydd wedi mynd ymhellach nag oeddwn i byth yn meddwl byse wedi gallu yn fy mywyd fel rapiwr a chantores. I gael y fath lwyddiant gyda'r g芒n Cymru Ni yn benodol, c芒n wnaethon ni gynhyrchu ac sydd ddim yn bygwth fy nghredoau, fy ngwleidyddiaeth... wel, mae'n meddwl y byd i mi.
Ac ar 么l blynyddoedd o greu cerddoriaeth heb ddim fawr o sylw, roedd hwn yn noson hynod o bwysig i mi. Ac yn profi i mi y gallwch gael llwyddiant heb werthu allan eich credoau fel artist.
Hefyd o ddiddordeb: