Camau cyntaf dyn 'na fyddai byth yn cerdded eto'

  • Cyhoeddwyd
Sybil, Harold a Sam Miggins
Disgrifiad o’r llun,

Harold Price gyda'i wraig, Sybil, a'r arbenigwr clinigol Sam Miggins y mae'n ei disgrifio'n "achubwr bywyd"

Mae motobeiciwr a gafodd ei barlysu mewn gwrthdrawiad a'i gynghori na fyddai byth yn cerdded eto wedi cymryd ei gamau cyntaf.

Fe lwyddodd trwy ddefnyddio coesau roboteg gafodd eu datblygu'n wreiddiol ar gyfer milwyr Americanaidd.

Ond mae Harold Price, 79, yn talu £800 y mis i gael ei drin yn breifat wedi i'r GIG wrthod ei helpu.

Yn ôl arbenigwr adferiad, mae profiad Mr Price yn un "gyffredin iawn" oherwydd mae gwasanaethau ffisiotherapi wedi cael eu "gadael ar eu hôl".

Dywed y bwrdd iechyd bod hawl gan gleifion i ddewis therapïau tu hwnt i'r GIG.

'Ges i fy llorio'n llwyr'

Fe newidiodd bywyd Mr Price ar 11 Mehefin 2021 pan dorrodd ei wddf mewn gwrthdrawiad 12 milltir o'i gartref yn Griffithstown, ar gyrion Pont-y-pŵl.

Roedd wedi bwriadu seiclo, ond wrth iddi baratoi i fynd allan fe ffoniodd cyfaill ac fe benderfynodd fynd ar ei feic modur yn hytrach.

"Pum munud arall a ni fyddai hyn wedi digwydd," dywedodd.

Harold Price ar garreg yr aelwyd gyda'i feic rasioFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harold Price yn seiclo tua 90 milltir yr wythnos cyn y gwrthdrawiad

Fe darodd cefn beic modur ei gyfaill ar gyflymder o ryw 15 mya. Daeth oddi ar ei Honda Rebel 500cc a'i ruthro i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Er y llawdriniaeth frys i'w gefn, roedd ei ddwylo a'i goesau wedi eu parlysu.

"Roedden nhw'n meddwl na fyswn i'n cerdded eto," meddai.

"Ges i fy llorio'n llwyr. Meddyliais: 'Mae'n rhaid i mi gael fy hun ar fy nhraed'."

Harold yn cerdded gyda'r coesau roboteg
Disgrifiad o’r llun,

Harold yn cymryd ei gamau cyntaf ers y gwrthdrawiad gyda chymorth coesau roboteg - triniaeth sy'n cael ei harbrofi mewn clinig preifat yng Nghasnewydd

Mae adferiad yn dilyn niwed i'r cefn yn aml yn golygu oriau maith o ffisiotherapi.

Ond roedd statws clinigol Harold - anallu i gerdded eto - yn ei atal rhag cael ffisiotherapi ar y GIG.

Fe benderfynodd geisio dysgu ei hun i gerdded yn ei gartref gyda dyfais a luniodd ei hun. Fe syrthiodd sawl tro, ac roedd hynny'n destun pryder i'w wraig, Sybil.

"Fe droies i 'ngefn ac roedd e ar y llawr," meddai. "Roedd yn ymddangos bod dim llawer o obaith.

"Ond ar ôl byw gyda Harold am ryw hanner canrif, ro'n i'n gwybod na fyddai'n rhoi lan ac roedd yn dweud yn y cyfarfodydd 'Rwy' am gerdded'."

Harold yn ceisio cerdded gyda chymorth cyfaillFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Harold yn ceisio cerdded, gyda chymorth cyfaill, cyn iddo gael ffisiotherapi yn y clinig preifat

Dywed Mrs Price ei bod yn "rhwystredig iawn" gan fod ei gŵr yn gwneud cynnydd da, hyn yn oed heb ffisiotherapi, ond roedd ei feddyg teulu'n glynu wrth y prognosis gwreiddiol.

"Fe wnaethon nhw yrru llythyr ata'i yn dweud 'ni allwn wneud dim'. Dywedon nhw 'dyw e ddim yn mynd i gerdded'," meddai.

"Doedd nunlle i fynd, felly roedd rhaid penderfynu ein bod yn mynd i wrando arnyn nhw a bydd Hal yn eistedd mewn cadair olwyn, neu ry'n ni am dalu ein hunain."

Daeth ar draws clinig preifat sy'n arbenigo mewn adferiad wedi anaf i'r cefn yn Langstone, Casnewydd.

Mae Harold nawr yn cael sesiwn awr o hyd ddwywaith yr wythnos, ac yn ôl ei wraig dydyn nhw "heb edrych yn ôl" ers dechrau'r driniaeth breifat yng Nglinig Morrello.

Harold yn cerdded yn y ddyfais roboteg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r coesau roboteg yn galluogi Harold i gerdded gyda ffon

Daw'r cynnydd wedi i Harold, yn sgil ei natur penderfynol, gael ei ddewis ar gyfer arbrawf yn y clinig gyda choesau roboteg Keeogo, dolen allanol y mae'r claf yn eu gwisgo.

Cwmni o Ganada wnaeth eu datblygu er mwyn cynyddu cryfder a gwytnwch milwyr Americanaidd.

"Mae'r dechnoleg yn gallu eich helpu i godi eich traed," dywedodd cyfarwyddwr clinigol Morrello, Jakko Brouwers, gan egluro bod synwyryddion yn y coesau roboteg yn ymateb i symudiadau'r claf.

Mae'n golygu bod Harold yn gallu cerdded o un pen o'r clinig i'r llall, gan ailadrodd y symudiadau angenrheidiol i ddysgu cerdded eto.

Yn ôl Mr Brouwers mae 50 cam y dydd yn "50 o gyfleoedd i ddysgu - gyda roboteg gwisgadwy gallwn ni gynyddu maint yr ailadrodd".

Harold a Sybil Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harold wedi bod yn benderfynol o gerdded eto wedi'r ddamwain

Mae'r sesiynau gyda'r coesau roboteg wedi gwella iechyd meddwl Harold, ac mae'n grediniol bod siawns o gerdded eto - ond mae yna gost ariannol.

Mae'n defnyddio'r lwfans anabledd misol y mae'n ei dderbyn gan yr Adran Waith a Phensiynau - £350 - a £450 o'i arian ei hun i dalu am wyth awr o ffisiotherapi y mis.

"Dydyn ni ddim yn gyfoethog, ond gallwn ni fforddio i flaenoriaethu'r arian sydd gyda ni ar gyfer Harold," meddai Sybil Price.

Dywed Jakko Brouwers bod y GIG yn gorfod blaenoriaethu gwasanaethau acíwt dros wasanaethau adferiad, a bod "dim pwyslais ar brynu technoleg i wella'r profiad adferiad" i gleifion.

Jakko Brouwers
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jakko Brouwers bod hi'n bosib y byddai adferiad Harold Price wedi symud ymlaen fwy petae wedi cael gwasanaeth gan y GIG

"Ni ddylai pobl fod yn talu gymaint am gael defnyddio offer," ychwanegodd.

Mae'n "gyffredin", meddai, i weld pobl yn dirywio'n gorfforol ac yn feddyliol ar ôl cael eu hanfon adref o'r ysbyty.

"Mae'n bwysig iawn i gadw agwedd bositif wedi anaf catastroffig pan mae'r dyfodol yn edrych yn ddu."

Sybil yn gwthio Harold yn ei gadair olwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sybil Price bod ei gŵr yn dal yn cael trafferth dygymod â'i anabledd weithiau

Mae'n "gyffredin iawn" i ddod ar draws cleifion yn yr un sefyllfa â Harold Price, medd yr Athro Diane Playford, ymgynghorydd yn y maes niwroleg a meddygaeth adferiad.

"Yn anffodus, er bod gwasanaethau acíwt wedi datblygu, dyw gwasanaethau adferiad heb ac maen nhw wedi eu gadael ar eu hôl", dywedodd.

Ond fe ychwanegodd y byddai gwasanaethau adferiad gwell, yn y pen draw, yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau acíwt.

Arian ychwanegol

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r rhan fwyaf o'r cleifion yn ein canolfan adferiad y cefn arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yng nghymal cyntaf eu taith adferiad.

"Mae pob canlyniad a phrognosis yn dilyn asesiadau unigol arbenigol aml-ddisgyblaeth ac mae canlyniadau cleifion yn amrywio, gan ddibynnu ar lefel a chymhlethdod yr anaf i'r cefn.

"Nid ydym yn gosod amserlen o ran cynnydd na chyfyngiadau o ran adferiad.

"Ar ôl gadael yr ysbyty, mae adferiad yn parhau o fewn y gymuned ac mae byddau iechyd lleol a staff proffesiynol yn cynnal rhagor o asesiadau o ran y therapi angenrheidiol i gefnogi adferiad sy'n mynd rhagddo.

"Mae gan pob claf hawl i benderfynu beth yw'r cam gorau ymlaen iddynt, ac fe allai hynny fod trwy wasanaethau tu hwnt i'r GIG."

Gan "gydnabod pwysigrwydd adferiad o ran gwellhad person", dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £1.4m yn fwy i fyrddau iechyd bob blwyddyn ar gyfer "gweithwyr cefnogi adferiad proffesiynol yn y gymuned".

Maen nhw hefyd yn rhoi £5m bob blwyddyn "i ariannu mwy o staff iechyd proffesiynol cysylltiedig, sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, i ddarparu gwasanaethau adferiad a chefnogi pobl i wella."