Dwy ddynes yn yr ysbyty wedi tân mewn tŷ ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ddynes wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn agos at ganol Bangor.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi'u galw i'r adeilad ar Friars Avenue ychydig cyn 10:45 fore Sul.
Ychwanegon nhw fod pawb oedd yn y tŷ wedi llwyddo i adael yr adeilad.
Cafodd wyth injan dân eu gale i'r safle er mwyn delio gyda'r fflamau a cheisio eu rhwystro rhag lledaenu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i bobl gadw draw o'r ardal tra bo'r gwasanaethau brys yn delio gyda'r tân.