Cau rhan o'r M4 ar ôl gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
pil

Mae'r heddlu wedi cau rhan o draffordd yr M4 rhwng cyffyrdd 36 a 37 ar ôl gwrthdrawiad yn ardal Y Pîl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14:30 ar ôl i gar daro yn erbyn y rhwystrau sy'n gwahanu'r lonydd gorllewinol a dwyreiniol.

Cafodd y lôn orllewinol ei chau, ac roedd yna oedi hefyd i draffig sy'n teithio i gyfeiriad y dwyrain.

Yn ddiweddarch penderfynodd yr heddlu bod angen cau'r lôn ddwyreinol hefyd.

Dywed Heddlu'r De fod disgwyl i'r ffordd orllewinol fod ar gau am beth amser.