M4: Cyhoeddi enw dyn, 44, a fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn 44 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 brynhawn Llun.
Roedd Mathew Paul Sweeney yn byw yn ardal Danescourt yng Nghaerdydd.
Mae plismyn yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 14:30 rhwng cyffyrdd 36 a 37, pan fu fan Mercedes Sprinter mewn gwrthdrawiad â'r llain ganol.
Dywedodd partner Mr Sweeney, Alex James, eu bod wedi cael "sioc enfawr" yn dilyn ei farwolaeth sydyn.
"Roedd yn ddyn preifat ac yn ddyn teulu gwirioneddol. Roedd yn bartner cariadus, yn dad a mab balch," meddai.
"Bydd yn cael ei golli am byth gan bawb oedd yn ei adnabod."
Ychwanegodd: "Hoffem fel teulu ddiolch i unrhyw un a stopiodd i gynnig cymorth.
"Rhaid rhoi clod arbennig i'r holl wasanaethau brys a fynychodd ac a geisiodd eu gorau i'w helpu.
"Yr hyn sydd ei angen arnon ni nawr fel teulu yw amser a gofod i geisio prosesu yr hyn sydd wedi digwydd, a gofyn yn barchus i ni gael y cyfle i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023