Beicwyr modur Llŷn yn mynd ar daith dros achos da
- Cyhoeddwyd
Newydd gael ei phen-blwydd cyntaf oedd Emi Thomas pan gafodd ei rhieni'r newyddion brawychus fod ganddi fath o ganser oedd yn effeithio ar ei dwy aren.
Wedi blwyddyn o driniaethau - yn cynnwys 20 sesiwn o gemotherapi dwys a llawdriniaeth chwe awr a hanner - mae teulu Emi bellach yn disgwyl clywed beth fydd y camau nesaf.
Mae wedi bod yn gyfnod anodd tu hwnt i'r ferch fach a'i rhieni, Nicky a Gwion Thomas, sy'n byw yng Nghaernarfon.
Dywedodd ei mam fod Emi wedi cael cemotherapi unwaith y mis yn ddiweddar, a bod y doctoriaid yn ei monitro'n ofalus, a'r gobaith yw na fydd hi angen trawsblaniad aren.
"'Dan ni'n disgwyl clywed canlyniad ei sgan ddiweddara', a chael gwybod be' fydd yn digwydd nesa' rŵan, ond 'dan ni'n nesáu at y llinell derfyn gobeithio," meddai Nicky, sy'n wyneb cyfarwydd i ddilynwyr pêl-droed yng Nghymru fel un o gyflwynwyr Sgorio ar S4C.
"Mae hi'n gwneud yr holl bethau fasa chi'n disgwyl i hogan fach ddyflwydd oed wneud, ac mae hi wrth ei bodd efo'i brawd mawr, Sam, sy'n saith oed."
Dywed Nicky bod y driniaeth a'r gofal gan Ysbyty Alder Hey a ward blant Ysbyty Gwynedd, wedi bod yn "anhygoel".
Ond gyda chyllidebau tynn, roedd gwaith codi arian gan unigolion ac elusennau yn hanfodol, meddai.
Pob blwyddyn bydd clwb beic modur Beicwyr Llŷn yn cynnal taith godi arian o gwmpas yr ardal, ac yn dewis achos da i'w gefnogi.
Ddydd Sul mae disgwyl y bydd tua 100 o feicwyr modur yn mynd ar gylchdaith 100 milltir o gwmpas Llŷn ac Eryri, ac eleni y mudiad fydd yn elwa ydy Gafael Llaw - elusen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn sydd â chanser.
Ers ei ffurfio gan griw o wirfoddolwyr yn 2013 mae Gafael Llaw wedi codi dros £400,000 at achosion da, gyda'r prosiectau'n cynnwys gwella adnoddau yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey ar gyfer plant a'u teuluoedd.
Mae gan deulu Emi Thomas brofiad uniongyrchol o'u gwaith da.
"Mae Gafael Llaw wedi bod yn anhygoel," meddai Nicky.
"Pan oeddan ni'n gorfod aros am gyfnodau yn Alder Hey roeddan ni'n aml yn aros yn un o'r stafelloedd maen nhw wedi helpu i'w creu, lle mae offer a phethau fel sensory lighting yn gwneud y lle deimlo'n fwy cartrefol.
"Maen nhw hefyd yn rhoi tocynnau 'dyddiau allan' i atyniadau lleol i deuluoedd, ac mae Sam wedi mwynhau rheiny, achos mae'n bwysig cofio mai dim ond plentyn ydy o hefyd."
Ychwanegodd Nicky ei bod eisiau "dymuno pob lwc i'r beicwyr ac i ddiolch iddyn nhw, a'u hatgoffa nhw bod yr arian maen nhw'n godi yn gwneud byd o wahaniaeth i deuluoedd fel ni".
Mae Beicwyr Llŷn wedi codi dros £61,000 at achosion da ers ffurfio yn 2009, ac eglurodd eu cadeirydd, Eifion Roberts, pam y dewiswyd cefnogi Gafael Llaw eleni.
"Does yna ddim cysylltiad rhwng Gafael Llaw â ni, diolch byth [yn yr ystyr nad oes gan yr un o'r aelodau blentyn â chanser].
"Pob mis Hydref mae'r clwb yn pigo elusen neu achos da i gefnogi yn y flwyddyn wedyn. Gall unrhyw achos gael ei roi ymlaen ac mae pwyllgor y clwb yn penderfynu pa un i'w 'neud."
Mae'r beicwyr yn talu £5 yr un i gymryd rhan, ac yn casglu arian mewn gwahanol leoliadau ar y ffordd.
Tra bod rhai elusennau wedi gweld rhoddion yn gostwng oherwydd yr argyfwng costau byw, dywedodd cadeirydd Gafael Llaw, Iwan Trefor Jones, nad oedd hynny'n wir yn eu hachos nhw.
"Am ein bod ni'n elusen leol sydd ddim yn cyflogi neb - gwirfoddolwyr ydan ni i gyd - does gynnon ni ddim gorbenion ac mae 100% o'r arian yn mynd i'r achos dan sylw," meddai.
"Mae'n wych cael cefnogaeth grwpiau fel Beicwyr Llŷn, a bydd yr arian a godir yn sicr o gael ei drosglwyddo maes o law i achos teilwng fydd yn gwneud gwahaniaeth, gobeithio, i fywydau plant a phobl ifanc sy'n dioddef o ganser."
Taith Beicwyr Llŷn ddydd Sul (amseroedd bras): Dechrau ar Y Maes, Pwllheli am 11:00, a mynd ymlaen i Abersoch, Nanhoron, Clwb Pêl-droed Nefyn, Penygroes, tafarn y Snowdonia Parc yn Waunfawr am ginio tua 13:00. Ymlaen wedyn am Lanberis, Beddgelert, Porthmadog a gorffen ym Mhlas Heli, Pwllheli tua 15:45.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022